Heb unrhyw amheuaeth mae sector bwyd a diod Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac mae ffigurau diweddaraf y diwydant yn dangos y trosiant uchaf erioed, sef bron i £7.5 biliwn.
Mae bwydydd a diodydd Cymru yn dod yn fwyfwy enwog, a hynny’n gwbl haeddiannol, yn sgil eu gwreiddioldeb, eu hansawdd ac wrth gwrs oherwydd eu bod mor arbennig.
Gan ein bod yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi (Dydd Sul 1 Mawrth) hoffem eich gwahodd i brofi’r gorau o fwyd a diod Cymru drwy roi cynnig ar rysait Cymreig traddodiadol.
Dyma rai awgrymiadau sy’n cynnwys cynhwysion Cymreig a fydd yn cyffroi’r synhwyrau. Mae’r ryseitiau a’r cyfarwyddiadau coginio llawn ar gael ar wefan Bwyd a Diod Cymru.
Talpiau Cig Oen Cymreig PGI,* mintys a chaws Caerffili Traddodiadol
Mae blas hallt caws Caerffili yn atgyfnerthu melysrwydd y cig oen yn y pryd blasus hwn i’r teulu. I’w weini dros wely o basta.
Brest Hwyaden gyda saws eirin sbeislyd
Mae saws melys a sbeislyd yn cyd-fynd yn berffaith â hwyaden crensiog.
Madarch crymbl Morgannwg
Roedd caws Morgannwg (yn cynnwys llaeth o frîd prin o warthog o’r enw Gwent) yn cael ei ddefnyddio’n draddodiadol ar gyfer creu’r selsig llysieuol ond mae Caerffili bellach yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin yn ei le. Caiff y gymysgedd yn y rysait yma ei defnyddio ar gyfer llenwi madarch a chreu pryd o fwyd llysieuol blasus iawn.
Brecwast Abertawe
Gallwch ei weini fel byrbryd ysgafn ar unrhyw adeg o’r dydd ond beth am ei weini ar ddarn o dost trwchus er mwyn creu brecwast blasus ac iach! Mae’n cyfuno bwyd môr lleol o’r Gŵyr sy’n cynnwys cocos Penclawdd a bara lawr, sef math o wymon a gaiff ei gasglu ar hyd yr arfordir.
Cawl panas, afal a seidr
Mae’r sinsir ffres yn ychwanegu sbeis ysgafn at y cawl blasus yma. Mae’r seidr Cymreig sydd wedi ennill gwobrau lu yn ychwanegu at felysrwydd yr afalau.