Mae'n bwysig bod pawb yn gofalu am eu lles personol. Gallwch gael cymorth a chyngor gan y sefydliadau canlynol.
Llinell wrando a chyngor cymunedol
Llinell gymorth iechyd meddwl benodol ar gyfer Cymru yw'r llinell wrando a chyngor cymunedol (C.A.L.L). Maent yn darparu gwasanaeth gwrando a chefnogaeth emosiynol gyfrinachol.
Ffoniwch y llinell gymorth ar 0800 132 737 neu ewch i'r llinell cyngor a gwrando gymunedol am fwy o wybodaeth.
Fishermen’s Mission
Mae’r Fishermen’s Mission yn darparu cymorth mewn argyfwng a gofal ymarferol i bysgotwyr a'u teuluoedd. Gall ddarparu grantiau brys i bobl mewn angen, a’u cysylltu â chyrff eraill sy’n darparu grantiau.
Ffoniwch 01489 566 910 neu ewch i wefan y Fishermen’s Mission i gael rhagor o wybodaeth.
Mae gan yr elusen 2 swyddog porthladd y gellir cysylltu â hwy i gael cymorth a chefnogaeth:
- Uwch arolygydd Christine King
ffôn: 07827 965 241
ebost: swales@fishermensmission.org.uk - Uwch arolygydd Jane Devereux
ffôn: 07825 688 730
ebost: nwales@fishermensmission.org.uk
Dewis Cymru
Mae gan Dewis Cymru wybodaeth a chyngor ar faterion lles. Ar gael i bobl ledled Cymru, mae ganddo fanylion cyswllt sefydliadau a gwasanaethau lleol sy'n gallu helpu gyda materion lles.
Ewch i dewis.cymru.
Mind Cymru
Mae Mind Cymru yn darparu cyngor a chymorth i unrhyw un sy'n profi problem iechyd meddwl. Mae gwybodaeth ar gael am ble i gael help, meddyginiaeth a thriniaethau amgen.
Gallwch ffonio Mind Cymru rhwng 9am a 6pm, ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc): 03001 233 393.
Gallwch hefyd anfon neges destun 86463, neu e-bostiwch info@mind.org.uk.
Ewch i Mind Cymru i gael gwybod mwy.
Samariaid
Gallwch gysylltu â'r Samariaid 24 awr y dydd, bob dydd.
Ffoniwch eu llinell gymorth am ddim ar 116123 i siarad â rhywun.