Mae'n bwysig bod pawb yn gofalu am eu lles personol. Gallwch gael cymorth a chyngor gan y sefydliadau canlynol.
FarmWell Cymru
Mae FarmWell Cymru yn ganolfan wybodaeth ar-lein sy'n cynnwys:
- ffynonellau gwybodaeth sy'n hawdd eu defnyddio
- canllawiau ar sut y gallwch gael gafael ar gymorth a mentora ychwanegol, o safbwynt busnes a phersonol.
Ewch i www.farmwell.cymru am ragor o wybodaeth.
Y Rhwydwaith Cymunedau Fferm
Mae'r Rhwydwaith Cymunedau Fferm yn sefydliad gwirfoddol ac yn elusen. Mae'n cefnogi ffermwyr, gweithwyr amaethyddol a theuluoedd yn y gymuned ffermio.
Gall y Rhwydwaith helpu gydag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys:
- materion iechyd a lles anifeiliaid
- materion iechyd meddwl, fel iselder, straen a theimlo’n ynysig
- materion iechyd corfforol, fel salwch hirdymor a damweiniau
- materion teuluol, megis ymddeol, olyniaeth, tor perthynas a gwneud ewyllys.
Gallwch ffonio’r llinell gymorth Rhadffôn ar 03000 111 999 i siarad â rhywun rhwng 7am a 11pm. Gallwch hefyd e-bostio: help@fcn.org.uk
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.fcn.org.uk
Cronfa Addington
Mae Cronfa Addington yn elusen i ffermwyr a'u teuluoedd. Ar adegau o argyfwng a chaledi, efallai y byddant yn gallu darparu rhyddhad rhag trychinebau i ffermwyr ar sail genedlaethol, ranbarthol ac unigol.
Mae'r elusen hefyd yn darparu cartrefi i deuluoedd sydd wedi gorfod gadael eu ffermydd heb fod unrhyw fai arnynt eu hunain, ac sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
Cysylltwch â’r llinell gymorth ar 01926 620135.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.addingtonfund.org.uk
Sefydliad DPJ
Mae Sefydliad DPJ cefnogi pobl ym maes amaethyddiaeth ac mewn cymunedau gwledig sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae'r elusen yn darparu cwnsela lleol penodol drwy'r fenter 'Rhannwch y Baich' a hyfforddiant pwrpasol ar ymwybyddiaeth iechyd meddwl.
Cysylltwch â’r llinell gymorth Rhadffôn ar 0800 587 4262, neu anfonwch neges destun at 07860 048799.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.thedpjfoundation.co.uk
Sefydliad Fuddianol Amaethyddol Frenhinol (RABI)
Mae RABI yn elusen genedlaethol. Mae’n darparu cymorth lleol i’r gymuned ffermio ledled Cymru a Lloegr. Wedi'i sefydlu yn 1860, mae RABI wedi cefnogi ffermwyr o bob oed ers cenedlaethau.
Mae RABI yn cynnig:
- cymorth ariannol
- cymorth ymarferol
- cyngor cyfrinachol
- mynediad at gwnsela proffesiynol, dienw am ddim
Ffoniwch y llinell gymorth 24/7 ar 0800 188 4444, neu e-bostiwch: help@rabi.org.uk
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.rabi.org.uk
Tir Dewi
Mae Tir Dewi yn elusen sy'n cefnogi ffermwyr a'u teuluoedd. Mae rhwydwaith o wirfoddolwyr ar gael i
- wrando a chynnig cyfrinachedd llwyr
- helpu i flaenoriaethu a datrys problemau
- rhoi ffermwyr mewn cysylltiad â sefydliadau partner a all gynnig cymorth penodol gydag amrywiaeth o broblemau cymhleth.
Cysylltwch â’r llinell gymorth Rhadffôn ar 0800 121 4722, neu e-bostiwch mail@tirdewi.co.uk
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.tirdewi.co.uk
Mind Cymru
Mae Mind Cymru yn rhoi cyngor a chefnogaeth i unrhyw un sydd â phroblem iechyd meddwl. Mae gwybodaeth ar gael am ble i gael help, meddyginiaeth a thriniaethau amgen.
Gallwch ffonio Mind Cymru rhwng 9am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) ar 0300 123 3393 Gallwch hefyd anfon neges destun i 86463, neu e-bostiwch info@mind.org.uk.
Ewch i www.mind.org.uk/about-us/mind-cymru/ i gael gwybod mwy.
Y Samariaid
Gallwch gysylltu â'r Samariaid 24 awr y dydd, bob dydd, o unrhyw ffôn, hyd yn oed ffôn symudol heb gredyd. Ffoniwch eu llinell gymorth am ddim ar 116123 i siarad â rhywun.
Os hoffech gael cymorth emosiynol yn Gymraeg, mae gennym linell gymorth Gymraeg. Mae'n rhad ac am ddim i alw bob dydd rhwng 7pm ac 11pm. Ffoniwch ni ar 0808 164 0123.
Ni fydd y rhifau hyn yn ymddangos ar eich bil ffôn.
Neu gallwch anfon neges e-bost at jo@samaritans.org neu fynd i samaritans.org.