Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans AC.
Heddiw, cyhoeddais ein Cyllideb Derfynol ar gyfer 2020 i 2021. Er gwaethaf yr heriau rydym wedi'u hwynebu oherwydd anwadalwch Llywodraeth y DU, rydyn ni wedi glynu’n gadarn wrth ein cynlluniau er mwyn gwireddu ein haddewidion.
Roedd ein Cyllideb ddrafft yn nodi bod mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn flaenoriaeth inni, a chyhoeddwyd pecyn newydd gwerth £140m i helpu i ddiogelu dyfodol ein planed. Ers hynny, fodd bynnag, mae llawer o gymunedau yng Nghymru wedi dioddef effeithiau dinistriol a digynsail yn sgil stormydd.
Fel Llywodraeth gyfrifol, gan gydnabod yr angen i weithredu ar frys, fe wnaethom gyhoeddi cynllun rhyddhad brys rhag llifogydd ar 18 Chwefror, gan sicrhau bod hyd at £10m ar gael fel ymateb cychwynnol. Mae’r gwaith yn parhau er mwyn deall graddfa lawn y difrod a nodi’r cymorth tymor hwy sydd ei angen. Gan fod diwedd y flwyddyn ariannol 2019 i 2020 yn agosáu mae’n debygol y bydd rhai o’r costau yn digwydd yn ystod y flwyddyn gyfredol ac eraill yn ystod 2020 i 2021. O’r herwydd, byddem yn disgwyl i unrhyw gymorth ariannol pellach gael ei adlewyrchu yn y gyllideb atodol gyntaf.
Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth fydd gan Gyllideb y DU ar 11 Mawrth i’w gynnig i Gymru. Os na fydd gostyngiad yn ein cyllid refeniw o Gyllideb y DU byddaf hefyd yn ceisio gwneud dyraniadau pellach yn 2020-21 fel rhan o’r gyllideb atodol gyntaf. Byddaf hefyd yn amlinellu yn ystod y ddadl ar y Gyllideb Derfynol ar 3 Mawrth pa feysydd rwy’n ystyried rhoi blaenoriaeth iddynt.
Mae Cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.