Mae Llywodraeth Cymru yn lansio cynllun newydd pwysig fory (dydd Mercher, 26 Chwefror) i helpu cymunedau i ddod â natur at 'garreg eich drws' ac atal a gwyrdroi'r dirywiad ym myd natur.
Ar y cyd â Cadwch Gymru'n Daclus, caiff dros 800 o 'becynnau dechrau' (sydd wedi’u talu amdanynt) eu neilltuo i gymunedau ledled Cymru. Mae'r pecynnau'n cynnwys pethau fel planhigion a hadau, compost di-fawn, arfau a hyd yn oed 'llety' ar gyfer gwenyn a phryfed. Bydd y pecynnau dechrau'n cynnwys popeth fydd ei angen i greu llain natur gymunedol, canllaw ar sut i'w chreu a bydd un o swyddogion Cadwch Gymru'n Daclus ar gael i roi cyngor a help.
Bydd Cadwch Gymru'n Daclus yn ei gwneud hi'n hawdd i unrhyw grŵp greu 'Lle Lleol ar gyfer Natur'. Gallai'r grŵp fod yn grŵp cymunedol, man addoli neu gymdeithas trigolion. Does dim angen cyfrif banc na chyfansoddiad ond mae yna ffurflen gais hir i'w llenwi. Y cyfan sy'n rhaid ei wneud yw ffeindio lle ar gyfer natur, cael caniatâd y perchennog, dod â grŵp o wirfoddolwyr ynghyd a gwneud cais. Bydd Cadwch Gymru'n Daclus wedyn yn trefnu dyddiad ac yn dod â'r holl offer sydd eu hangen.
O'r 801 o becynnau dechrau, bydd yna 267 o'r tri math:
- 267 x Gerddi Pili Palod - Bydd y pecyn yn cynnwys planhigion llachar, persawrus a llawn neithdar e.e. lafant, gwyddfid (llaeth y gaseg), arfau, compost, border/trelis a chynllun plannu gyda mesuriadau a chanllaw ar sut i reoli'r llain yn y tymor hir.
- 267 - Gerddi Ffrwythau - Bydd y pecyn yn cynnwys coed ffrwythau, llwyni ffrwythau meddal, ffrwythau ar gansen a mefus. Bydd yn cynnwys hefyd hadau blodau gwyllt brodorol i ddenu pryfed peillio, arfau llaw, compost, menig coed, netin a chanllaw.
- 267 - Gerddi Bywyd Gwyllt - Bydd y pecyn yn cynnwys blychau bywyd gwyllt, hadau blodau gwyllt brodorol, planhigion dringo (e.e. clematis a gwyddfid) a threlis, compost ac arfau llaw. Cynhwysir canllawiau rheoli, cyngor ynghylch pam ei bod yn bwysig gadael i borfa dyfu (a pheidio â phoeni am chwyn) a ffyrdd eraill o arddio er lles bywyd gwyllt.
Yn ogystal â'r pecynnau hyn i ddechreuwyr, bydd yna 66 o becynnau datblygu ar gyfer cymunedau arbennig o uchelgeisiol. Bydd y pecynnau hyn yn helpu i greu prosiectau mwy fel cynlluniau draenio trefol cynaliadwy, lle i dyfu bwyd ar gyfer y gymuned neu le i natur.
Mae pecynnau Dechrau a Datblygu Cadwch Gymru'n Daclus yn rhan o gronfa £5m 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur' Llywodraeth Cymru ar gyfer caffael, adfer a gwella natur ar 'garreg eich drws'.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos bod ein bioamrywiaeth yng Nghymru'n dirywio. Ers 1970, mae gennym lai o fywyd gwyllt ac mewn llai o lefydd. Er mwyn gallu mynd i'r afael ag argyfwng natur, rhaid sicrhau bod ein hecosystemau cyn gryfed ag y gallant fod. Rhaid i ni i gyd weithredu a rhaid gweithredu nawr.
Rwy'n gwybod bod yna bobl sy'n frwd dros adfer natur ledled y wlad. Mae yna gymaint o waith da eisoes yn cael ei wneud ond rwy'n clywed yn aml nad yw pobl yn gwybod ble i ddechrau na ble i fynd am help a chyngor.
Mae'n bleser aruthrol imi felly cael lansio 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur', fel rhan o ymrwymiad ehangach i'w gwneud hi'n rhwydd i bawb amddiffyn, adfer a chyfoethogi'r bywyd gwyllt sydd ar garreg ein drws ac o'n cwmpas.
Dywedodd Louise Tambini o Cadwch Gymru'n Daclus:
Rhaid inni weithredu ar fyrder os ydym am weld y dirywiad yn natur Cymru'n troi. Mae'n destun cyffro i ni fod cyfle nawr i gymunedau ledled y wlad wneud byd o wahaniaeth trwy'r fenter Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid am ei help i wneud hyn yn bosibl. Rydym yn disgwyl ymlaen at weld cannoedd o 'leoedd newydd ar gyfer natur' yn ymddangos dros y misoedd nesaf.