Daeth yr ymgynghoriad i ben 4 Ebrill 2016.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 569 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn ceisio eich barn ar god ymarfer drafft ar gyfer Cymru ar ddarpariaethau rheoli rhywogaethau newydd.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
O ganlyniad i newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Seilwaith 2015 mae darpariaethau rheoli rhywogaethau bellach wedi'u cynnwys yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae'r darpariaethau hyn wedi'u cyflwyno i sicrhau bod modd cymryd camau priodol yn erbyn rhywogaethau estron goresgynnol o dan rai amgylchiadau.
Mae gan Weinidogion Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru bwerau newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i berchenogion reoli rhywogaethau estron goresgynnol neu sy'n eu galluogi i'w rheoli lle bo perchennog wedi gwrthod gweithredu neu ganiatáu mynediad atynt. Gall y darpariaethau hefyd fod yn gymwys i anifeiliaid brodorol a arferai fyw yma os ydyn nhw wedi'u rhyddhau'n anghyfreithlon.
Mae'r cod ymarfer drafft yn nodi sut y dylai'r darpariaethau gael eu rhoi ar waith.