Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Heddiw, rwyf wedi cyflwyno Cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. Mae'r gyllideb derfynol yn cynnwys nifer bach o addasiadau refeniw a chyfalaf i'r Gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr.
Mae holl ddogfennau'r Gyllideb derfynol ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Llywodraeth Cymru. Maent yn cynnwys:
- Cynnig y Gyllideb Flynyddol;
- Llinellau Gwariant yn y Gyllideb (tablau BEL); a
- Nodyn Esboniadol y Gyllideb Derfynol.
Mae'r ddogfen ganlynol, sy'n rhan o'r gyfres o ddogfennau a gyhoeddir heddiw, ar gael hefyd:
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer cyllideb y DU ar 11 Mawrth. Rwyf yn bwriadu gwneud datganiad mor gynnar â phosibl yn dilyn cyllideb y DU i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ragolygon a manylion unrhyw symiau canlyniadol i Gymru.