Canfyddiadau ymchwil ansoddol manwl gydag aelodau o'r cyhoedd ynghylch agweddau at bleidleisio mewn etholiadau a safbwyntiau a phrofiadau o ymgysylltiad dinesig ehangach.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Adnewyddu ymgysylltiad democrataidd
Nod yr ymchwil ar y cyfan oedd deall sut orau i ymgysylltu â grwpiau o bleidleiswyr sydd newydd eu hetholfreinio mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru – a’r rhai sydd eisoes â hawl i bleidleisio ond sydd wedi ymddieithrio’n wleidyddol – i hysbysu’r grwpiau hyn ynghylch eu hawliau a hybu cyfranogiad ac ymgysylltiad democrataidd.
Prif ganfyddiadau
- Roedd pobl iau a gwladolion tramor yn fwy tebygol nag oedolion a oedd wedi ymddieithrio o ddangos diddordeb mewn pleidleisio mewn etholiadau lleol.
- Roedd diffyg gwybodaeth, meddwl bod gwleidyddiaeth yn ddryslyd ac yn anneniadol a dadrithiad cyffredinol yn rhwystrau allweddol i ymgysylltu.
- Roedd gwladolion tramor weithiau’n ansicr ynghylch hawliau pleidleisio ar gyfer gwahanol etholiadau yn y DU.
- Roedd gan gyfranogwyr feddwl mawr o’r cymunedau yr oeddent yn byw ynddynt ond roedd yn tueddu i fod yn aneglur sut i godi mater.
- Roedd gwybod mwy, teimlo’u bod yn cael gwrandawiad, a gwybod bod cyfranogiad yn gallu gwneud gwahaniaeth yn themâu allweddol o awgrymiadau cyfranogwyr ar gyfer gwella ymgysylltiad.
Adroddiadau
Adnewyddu ymgysylltiad democrataidd: ymchwil archwiliol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Adnewyddu ymgysylltiad democrataidd: ymchwil archwiliol (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 826 KB
Cyswllt
Nerys Owens
Rhif ffôn: 0300 025 8586
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.