Nod y gwerthusiad yw asesu dyluniad a pherfformiad y gweithrediad safleoedd cyflogaeth strategol, yn ogystal â’r dull cyflawni.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Ariennir y gweithrediad yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Nod y gweithrediad yw darparu’r seilwaith sylfaenol ar gyfer denu buddsoddiad a helpu i ddatblygu pedwar safle cyflogaeth strategol o ansawdd uchel.
Prif ganfyddiadau
- Prosiect sy’n cyd-fynd yn dda â strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru.
- Tystiolaeth dda ar gyfer yr ymyrraeth, yn benodol, ceir tystiolaeth bod prinder lle ar gyfer cynnal cyflogaeth a diffyg yn y farchnad.
- Cyfiawnhad dros y dewis o safleoedd, mae pob un yn gyraeddadwy ac maent wedi’u lleoli mewn ardaloedd lle mae galw yn y farchnad a gerllaw ceiswyr gwaith.
- Trefniadau rheoli a monitro cadarn yn Llywodraeth Cymru ac ar y safle.
- Mae’r gweithrediad safleoedd cyflogaeth strategol ar y trywydd iawn i fodloni pob un o’i dargedau ac mae cynnydd da wedi cael ei wneud o ran cyflawni pob un o amcanion y themâu trawsbynciol.
Mae’r argymhellion yn cynnwys camau i:
- gynnal ymgyrch farchnata wedi’i thargedu at feddianwyr a datblygwyr arfaethedig
- ystyried sut y gellid sicrhau bod cymunedau difreintiedig yn gallu manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd cyflogaeth
Mae disgwyl i’r gwerthusiad terfynol gyflwyno ei adroddiad yng ngaeaf 2022.
Adroddiadau
Gwerthuso safleoedd cyflogaeth strategol: adroddiad interim , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Gwerthuso safleoedd cyflogaeth strategol: adroddiad interim (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 770 KB
Cyswllt
Katy Marrin
Rhif ffôn: 0300 062 5103
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.