Dadansoddiad o ddata arolwg ar ddealltwriaeth y cyhoedd o ddatganoli trethi yng Nghymru, gyda chanfyddiadau yn cael eu cymharu â astudiaeth sylfaenol a gyhoeddwyd yn 2019.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Prif ganfyddiadau
- Dywedodd y mwyafrif o'r ymatebwyr mai Llywodraeth y DU sydd â'r rheolaeth fwyaf dros y trethi y maent yn eu talu yng Nghymru.
- Nid oedd y mwyafrif o'r ymatebwyr yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gallu gosod rhai trethi yng Nghymru o fis Ebrill 2018 ymlaen.
- Bu cynnydd sylweddol o ran ymwybyddiaeth bod Llywodraeth Cymru yn gallu pennu cyfraddau Treth Incwm gwahanol yng Nghymru.
- Roedd ymatebwyr yn llai tebygol o nodi'n gywir pwy sy'n gyfrifol am osod lefelau'r dreth rydych yn ei thalu pan fyddwch yn prynu tŷ yng Nghymru a'r dreth ar wastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi o'u cymharu â threthi eraill.
Cefndir
Yn ystod 2019, cynhaliodd Llywodraeth Cymru gyfres o ymgyrchoedd cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o’r broses o ddatganoli Treth Incwm Cymru yn rhannol. Roedd hyn yn dilyn 2017-18 pan dargedwyd gweithgarwch i hysbysu ac ymgysylltu ar ddatganoli treth trafodiadau tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi.
Defnyddir y canfyddiadau o’r ymchwil i hysbysu lle dylid ymgysylltu â'r cyhoedd er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cysylltiad rhwng yr arian a enillir ac a godir yng Nghymru trwy drethi Cymru, a sut y caiff ei wario ar wasanaethau cyhoeddus.
Adroddiadau
Dealltwriaeth y cyhoedd o ddatganoli trethi: adroddiad diweddaru 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Dealltwriaeth y cyhoedd o ddatganoli trethi: adroddiad diweddaru 2020 (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 577 KB
Cyswllt
Nerys Owens
Rhif ffôn: 0300 025 8586
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.