Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Heddiw ymwelais â staff Trafnidiaeth Cymru i ddysgu am eu profiadau nhw wrth weithio ym maes y rheilffyrdd. Er fy mod yn ymwybodol bod y mwyafrif llethol o deithwyr ar y rheilffyrdd yn mwynhau siwrneiau diogel a di-drafferth, trist oedd clywed bod enghreifftiau cynyddol o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymosodiadau ledled ein rhwydwaith rheilffyrdd. Mae diogelwch teithwyr a staff yn destun allweddol y mae’r Llywodraeth hon yn canolbwyntio arno. Ni ddylai unrhyw un orfod ymdopi â chamdriniaeth nac ymddygiad gwrthgymdeithasol o unrhyw fath ar ein rhwydwaith rheilffyrdd.
Mae adolygiad o’r digwyddiadau a gofnodwyd yn dangos bod tua 85% ohonynt yn digwydd ar ein trenau, ac nid yw hi’n bosibl darparu heddlu a staff diogelwch ar bob trên. Yn ystod y 12 mis diwethaf yn unig mae bron i 350 o adroddiadau o gam-drin corfforol neu eiriol yn erbyn staff ar drenau. Er bod hwn yn nifer bach o’i gymharu â chyfanswm y siwrneiau sy’n cael eu cymryd gan deithwyr, gall y goblygiadau a’r effaith andwyol ar les meddyliol staff a theithwyr fod yn sylweddol. Ni ddylwn ganiatáu digwyddiadau o’r fath.
Mae gan bawb yr hawl i weithio neu deithio ar ein rhwydwaith heb ofni cael eu cam-drin na’u bygwth. Rhan o’n teuluoedd ni a’n cylch ffrindiau yw’r staff sydd yno i’n helpu ni i gyd. Y rhain yw’r bobl rydym yn cymdeithasu gyda nhw, y bobl rydym yn mwynhau eu cwmni, a’r bobl sy’n gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn teithio o A i B, yn aml dan amgylchiadau anodd.
Mae’n rhaid i ni gael gwared ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwneud popeth y gallwn i ddiogelu teithwyr a chefnogi staff i gyflawni eu dyletswyddau ac i deithio mewn awyrgylch diogel a dymunol.
Mae trenau yn llefydd cyfyng, a phan fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd arnynt maen nhw’n gallu bod yn llefydd anhygoel o frawychus i gwsmeriaid a staff. Dylai ein trenau fod yn llefydd diogel y gall unrhyw un eu defnyddio i fynd ble bynnag maent yn teithio a pha bynnag yw’r amser, ddydd neu nos.
Rwy’n falch o’r holl waith y mae Trafnidiaeth Cymru, Network Rail a’’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn ei wneud i sicrhau bod y rhwydwaith yn ddiogel. Cymerodd y Llywodraeth hon gam pwysig tuag at sicrhau diogelwch teithwyr drwy wneud yn siŵr yn ystod y broses gaffael y byddai mwy nag un aelod o staff ar bob trên ar wasanaethau Cymru a’r Gororau. Mae gwasanaethau megis gwasanaeth neges destun 61016 Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig hefyd yn erfyn pwysig i deithwyr allu rhoi gwybod am ddigwyddiadau yn ddistaw drwy neges destun er mwyn gwneud ein rhwydwaith yn fwy diogel.
Bydd ychwanegu mwy o staff diogelwch, hyfforddiant penodol ar gyfer staff, yn ogystal â chefnogaeth Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn helpu i leihau’r duedd hon ond rwyf yn ymwybodol y gellir gwneud rhagor.
Mae’r Llywodraeth yn cydnabod na fydd y rhaglen gyfredol ar gyfer diogelu teithwyr a staff yn lleihau nifer y digwyddiadau heb newid agweddau meddwl. Rwy’n gwybod fod Trafnidiaeth Cymru wedi cynnal gweithdai gyda thimau rheng flaen yn ne a gogledd Cymru i’w hyfforddi i fynd i’r afael â’r broblem yn well. Roedd y gweithdai hyn yn cynnwys staff gweithredol, cynrychiolwyr yr Undebau Llafur ac arbenigwyr o Fwrdd Safonau Diogelwch y Rheilffyrdd a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i ddod o hyd i ffordd well o atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Clywyd nifer o syniadau yn y gweithdai hyn ar gyfer lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol gan gynnwys Camerâu ar y Corff, Rhaglen Gyfathrebu a Threfn ar gyfer Rheoli Digwyddiadau a Gweithredu.
Fel canlyniad, rwy’n falch medru datgan i’r aelodau y bydd Trafnidiaeth Cymru yn treialu Camerâu ar y Corff (gydag arweiniad gan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig) gyda’r bwriad o’u defnyddio fel erfyn ataliol effeithlon yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol, i gefnogi erlyniadau am ymosodiadau, ac i roi hwb i ymddiriedaeth y cyhoedd.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnal prawf o’r Camerâu ar y Corff gan ddefnyddio camerâu a meddalwedd wedi eu cyflenwi gan bedwar cwmni blaenllaw. Bydd y profion hyn yn cael eu cynnal ym Machynlleth, Caergybi, Caerdydd a Chaerfyrddin. Mae Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio gwahanol fathau o gamerâu a thechnoleg er mwyn penderfynu pa gwmni cyflenwi sydd orau. Bydd pob camera a meddalwedd yn cael eu hasesu yn ôl ystod o ffactorau gweithredol.
Unwaith bydd y profion yn dod i ben bydd Trafnidiaeth Cymru yn adolygu’r casgliadau ac yna yn gweithio tuag at gyflwyno’r camerâu ar y corff i holl staff y rheilffyrdd. Byddaf yn hysbysu aelodau am ganlyniad y profion.