Wrth i’r Wythnos Brentisiaethau Genedlaethol ddirwyn i ben, cafodd y Prif Weinidog Mark Drakeford gyfarfod â phrentisiaid Undeb Rygbi Cymru a oedd yn hyfforddi dosbarth o ferched o Academi Ummul Mumineem, yng Nghaerdydd, i chwarae rygbi cadair olwyn.
Daw’r ymweliad ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ddechrau’r wythnos ei bod ar y trywydd cywir i ragori ar y targedau i gyflwyno 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel, ar gyfer pob oed, yng Nghymru erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Mae dull Llywodraeth Cymru o gyflwyno ei rhaglen brentisiaethau yn wahanol i ddull Llywodraeth y DU yn Lloegr. Yn ôl y dystiolaeth, mae Llywodraeth Cymru yn llygad ei lle drwy fabwysiadu dull gwahanol. Roedd adroddiadau’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ym mis Mawrth 2019 yn dangos bod nifer y rhai sy’n dechrau prentisiaeth yr ochr draw i’r ffin wedi syrthio 25 y cant mewn dwy flynedd. Un rheswm pam mae rhaglen Llywodraeth Cymru mor llwyddiannus yw’r ymrwymiad sydd ynddi i gynnig cyfle cyfartal a chymorth ychwanegol i’r rheini sydd ei angen. Mae hyn yn bosibl diolch i fecanweithiau wedi’u teilwra’n benodol, fel y rheini sy’n cael eu disgrifio yn y Cynllun Gweithredu ar Anabledd ar gyfer Prentisiaethau. Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
Dywedodd Martyn Phillips, Prif Weithredwr Grŵp Undeb Rygbi Cymru:
|