Cofnodion Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: Mai 2018
Cofnodion cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 16 Mai 2018 am 10.30yb, Trefforest.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Kathryn Bishop - Cadeirydd
Jocelyn Davies - Anweithredol
Dyfed Edwards - Anweithredol
Lakshmi Narain - Anweithredol
Martin Warren - Anweithredol
Dyfed Alsop - Prif Swyddog Gweithredol
Sean Bradley - Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi
Ymgynghorwyr (advisors)
Andrew Jeffreys - Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
Dave Matthews - Pennaeth Polisi
Sam Cairns - Pennaeth Gweithrediadau
Melissa Quignon-Finch - Pennaeth Adnoddau Dynol
Teresa Platt - Prif Swyddog Cyllid
Jo Ryder - Pennaeth Staff
Yn Cyflwyno/mynychu
Pennaeth Gwasanaethau Digidol
Rheoli Dyledion
Secretariat
Ceri Sullivan - Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd
Agor y cyfarfod
1. Croeso a chyflwyniadau, gwrthdrawiad buddiannau ac ymddiheuriadau
- Cofnodion y Cyfarfod diwethaf
- Materion yn codi.
- Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Bwrdd a’r ymgynghorwyr i'r cyfarfod. Ni nodwyd unrhyw wrthdrawiad buddiannau.
- Cafwyd ymddiheuriadau gan David Jones, Becca Godfrey a Catrin Millar.
- Cytunodd y Bwrdd fod y cofnodion yn gofnod cywir o'r hyn a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf. Fodd bynnag, cafwyd sylwadau am fân anghywirdebau. Bu’r Bwrdd yn trafod ac yn cytuno pa wybodaeth yr oedd angen ei thynnu allan o’r fersiwn ar gyfer ei gyhoeddi.
- Trafodwyd camau gweithredu’r cyfarfod diwethaf, a chytunwyd y byddai pum cam gweithredu yn parhau ar agor.
- Dywedodd y Cadeirydd wrth y Bwrdd ei bod yn bryd adolygu ei ddogfennaeth Cylch Gorchwyl a Rheolau Sefydlog. Byddai fersiwn wedi’i ddiweddaru, gyda’r newidiadau wedi’u tracio, ynghyd â diagram newydd o bartneriaeth, atebolrwydd a pherthnasoedd ar y cyd Awdurdod Cyllid Cymru (YR AWDURDOD)/Trysorlys Cymru, yn cael ei hanfon at yr aelodau i’w hystyried a’i gytuno.
Adroddiadau, cymeradwyaeth a phenderfyniadau
2. Adroddiad y Cadeirydd
- Atgoffodd y Cadeirydd y Bwrdd fod y Pwyllgor Cyllid wedi ymweld â swyddfa’r Awdurdod yr wythnos gynt. Rhoddwyd arddangosiad o’r system, a’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd i’r aelodau. Dywedwyd wrth y Bwrdd fod cyfarfod chwarterol cyntaf y Cadeirydd ag Ysgrifennydd y Cabinet, yn unol â’r ddogfen fframwaith, wedi’i drefnu ar gyfer yr wythnos ganlynol. Byddai’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr hefyd yn cwrdd â’r Ysgrifennydd Parhaol ar gyfer eu cyfarfod chwarterol ar y cyd â TC ym mis Gorffennaf; yn y cyfarfod hwn, byddent yn trafod rôl YR AWDURDOD fel rhan o ddatganoli ariannol.
- Bu’r Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog Strategaeth yn cynrychioli’r Awdurdod yn nigwyddiad Fforwm Trethi Ynysoedd Prydain yr wythnos honno. Cafodd y Bwrdd wybod fod y Prif Weithredwr wedi cyflwyno eitem yn y digwyddiad ac y byddai’r sleidiau’n cael eu rhannu gyda’r Bwrdd er gwybodaeth.
- Roedd yr Awdurdod Dylunio, a sefydlwyd fel Pwyllgor dros dro i’r Bwrdd, wedi cwrdd am y tro olaf y diwrnod cynt. Byddai’r Pwyllgor Pobl newydd yn cael ei gadeirio gan Dyfed Edwards a byddai David Jones yn ymuno â’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) am y flwyddyn nesaf.
- Atgoffwyd yr aelodau am ddiwrnod cwrdd i ffwrdd y Bwrdd i drafod strategaeth a drefnwyd ar gyfer mis Gorffennaf ac am yr adolygiad cymheiriaid oedd i’w drefnu tua adeg pen-blwydd cyntaf y Bwrdd. Byddai’r adolygiad cymheiriaid yn cyfrannu at ddatblygu’r Bwrdd yn y dyfodol.
- Cafwyd trafodaeth ynghylch cyfradd treth incwm Cymru. Er y byddai’n cael ei chasglu gan CThEM, nodwyd y gallai’r cyhoedd dybio mai YR AWDURDOD oedd yn gyfrifol am ei chasglu a’i rheoli. Pwysleisiwyd bod angen cynllun wrth gefn a chyfathrebu ynghylch y mater hwn. Gofynnodd y Bwrdd am gael eu briffio’n llawnach am hyn yn ddiweddarach.
- Cafodd y Bwrdd wybod y byddai ystadegau Treth Trafodiadau Tir (TTT) yn cael eu rhyddhau’r bore canlynol, ac y byddai rhywfaint o gyfathrebu’n cael ei wneud gan ddefnyddio tudalennau cyfryngau cymdeithasol YR AWDURDOD.
- Nododd y Cadeirydd fod cryn recriwtio wedi digwydd ers y tro diwethaf i’r Bwrdd gwrdd, a diolchodd i bawb yn y sefydliad am eu gwaith caled.
3. Adroddiad y Prif Weithredwr (Adrodd Gweithredol)
- Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Bwrdd fod y Pwyllgor Gweithredol (ExCom) wedi cwrdd a thrafod ei fis cyntaf llawn o adrodd gweithredol. Nodwyd y byddai’r mathau o ddata a gyflwynir yn newid dros amser wrth i’r Pwyllgor Gweithredol ddatblygu ei ddangosfwrdd gweithredol, ac mai data o 1 Ebrill i 10 Mai yn unig a gyflwynwyd, ac felly na ellid dod i gasgliadau cryfion ar hyn o bryd. Dywedwyd wrth y Bwrdd y byddai’r adroddiad, yn y dyfodol, yn cynnwys data un mis calendr.
- Byddai’r Pwyllgor Portffolio Newid yn cwrdd am y tro cyntaf yr wythnos ganlynol, ac felly byddai’r adroddiad gweithredol nesaf i’r Bwrdd yn cynnwys diweddariad gan y Pwyllgor.
- Holwyd barn aelodau’r Bwrdd am yr wybodaeth a ddarparwyd a’i fformat. Cytunodd yr Aelodau fod yr adroddiad a ddarparwyd yn fan cychwyn da a bod y sylwadau’n ddefnyddiol ac yn ddisgrifiadol; fodd bynnag, roeddent yn teimlo y byddai angen mwy o ddadansoddi tueddiadau a mwy o gynrychioliaeth graffig o ddata caled.
- Trafodwyd nifer uchel y galwadau a gafwyd, gan gynnwys galwadau a gafwyd y tu allan i oriau’r ddesg wasanaeth. Awgrymwyd y gallai’r galwadau niferus hyn fod o ganlyniad i’r gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu helaeth a wnaethpwyd wrth agosáu at fynd yn fyw, ond nododd y Bwrdd y byddai angen monitro hyn yn y dyfodol a, phe byddai angen, adolygu oriau’r ddesg wasanaeth. Nododd y Bwrdd hefyd y data am amser datrys ymholiadau, gan nodi bod y galwadau hyn yn cael sylw cyflym ac effeithlon.
- Trafododd y Bwrdd y data yn nodi bod mwyafrif y cwsmeriaid TTT yn Lloegr. Nodwyd bod hyn efallai am fod y sefydliadau wedi’u cofrestru yn Lloegr, er bod y cwsmeriaid eu hunain yn gweithio yng Nghymru. Cytunwyd i edrych ar hyn yn fanylach, yn enwedig am fod mwyafrif y gwaith ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid yn digwydd yng Nghymru.
- Bu’r Bwrdd yn ystyried yr ystadegau am siaradwyr Cymraeg yn y sefydliad, gan nodi bod newid sylweddol wedi bod yn y ganran – o draean i chwarter, o ganlyniad i gynyddu niferoedd y staff yn gyffredinol. Fodd bynnag, roedd y ganran hon yn gymesur â nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Awgrymwyd y byddai’n ddefnyddiol, wedi i’r Awdurdod gwblhau ei strategaeth Gymraeg, gosod nodau i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sefydliad, er mwyn cefnogi strategaeth LlC i greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
4. Adroddiadau gan Bwyllgorau
- Dywedodd y Cadeirydd wrth y Bwrdd fod yr Awdurdod Dylunio, pwyllgor dros dro’r Bwrdd, wedi cwrdd am y tro olaf y diwrnod cynt. Bu ei aelodau’n trafod dwy eitem barhaus, sef cau’r Rhaglen a chau’r Pwyllgor ei hun.
-
Dywedodd y Cadeirydd wrth y Bwrdd y byddai gwybodaeth bellach am gau’r rhaglen yn cael ei rhoi o dan eitem barhaus yn ddiweddarach yn y cyfarfod.
-
Crynhodd y Cadeirydd y drafodaeth am gau’r Awdurdod Dylunio, gan nodi bod yr aelodau wedi cydnabod bod llawer wedi’i gyflawni a bod y pwyllgor wedi cydweithio’n dda, heb lawer o amser i gyflawni cyn ‘mynd yn fyw’. Yn ystod ymarfer gwersi a ddysgwyd mewn cyfarfod blaenorol, oedd â’i allbwn wedi’i rannu gyda’r Bwrdd llawn er gwybodaeth, roedd nifer o wersi wedi’u nodi y gellid eu defnyddio gan YR AWDURDOD a/neu adrannau eraill LlC. Un o’r gwersi hyn oedd bod angen eglurder ynghylch rolau goruchwylio pwyllgorau dros dro o’r fath, a’r ansicrwydd achlysurol ynghylch pa eitemau a ddylai fynd at y Bwrdd a pha rai ddylai fynd at yr Awdurdod Dylunio.
-
Hysbysodd y Cadeirydd y Bwrdd y byddai cofnod cyfarfod olaf yr Awdurdod Dylunio yn cael ei rannu gyda’r Bwrdd fel papur i’w nodi ar gyfer cyfarfod llawn nesaf y Bwrdd.
5. Adroddiad Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
- Rhoddod Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru (TC) yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch diweddar. Bu dadl yn y Cynulliad y diwrnod cynt ynghylch Treth Tir Gwag. Dywedwyd wrth y Bwrdd fod cydweithio da wedi dechrau rhwng TC a’r Awdurdod ynghylch rhyddhau ystadegau TTT a bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i friffio’n ddigonol.
-
Byddai TC yn cyhoeddi darn o waith a wnaethpwyd yn ddiweddar gan Gerald Holthom ynghylch Ardoll Gofal Cymdeithasol LlC.
-
Roedd TC yn trefnu digwyddiad ar gyfer mis Gorffennaf i nodi 10 mlynedd o ddatblygiad o ran datganoli cyllidol.
6. Diweddariad Cyllid
Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).
Trafodaeth y Bwrdd
7. Cau’r Rhaglen
- Dywedodd y Cadeirydd wrth y Bwrdd ei bod wedi mynychu cyfarfod olaf y Bwrdd Rhaglen a gynhaliwyd ar 25 Ebrill, a bod rhai eitemau allweddol o ddogfennaeth a luniwyd ar gyfer y cyfarfod hwnnw wedi’u rhannu gyda’r Bwrdd er gwybodaeth.
-
Fel rhan o weithgareddau cau’r Rhaglen, lluniwyd cyfres o ddadansoddiadau o wersi a nodwyd ac a ddysgwyd. Strwythurwyd hyn ar ffurf tair haen, a phob un yn manylu mwyfwy, a byddent yn cael eu ddefnyddio mewn amrywiol ffyrdd. Byddai adolygiad rhaglen ôl-weithredol yn cael ei gynnal yn yr hydref, a’i ganlyniadau’n cael eu rhannu gyda’r Bwrdd er gwybodaeth.
-
Diolchodd y Bwrdd i bawb a gyfrannodd at waith y Rhaglen. Cydnabu’r Aelodau yr holl waith caled a wnaethpwyd ar y Rhaglen ac ansawdd y dogfennau cau a gwersi a ddysgwyd, gan bwysleisio mor bwysig yw sicrhau bod y gwersi hynny a nodwyd yn cael eu defnyddio yn y dyfodol.
8. Contractau TG
Gwybodaeth wedi’i golygu (Troednodyn 1).
9. Pwerau Troseddol
Gwybodaeth wedi’i golygu (Troednodyn 1).
10. Unrhyw Fater Arall
- Nodwyd bod adborth cadarnhaol am y ddeddfwriaeth wedi’i dderbyn gan randdeiliaid a bod gwaith ynghylch negeseuon cyfathrebu allanol yn datblygu’n cyflym.
11. Rhagolwg
- Nododd y Cadeirydd fod y rhagolwg yn ddogfen waith, sy’n rhoi’r cyfle i’r Bwrdd roi sylwadau am agendâu a gynllunnir ar gyfer y dyfodol. Roedd y Bwrdd yn fodlon ar yr eitemau ar gyfer y cyfarfod canlynol.
12. Adolygiad o’r Cyfarfod
Gwybodaeth wedi’i golygu (Troednodyn 1).
[1] Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth ac ati neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath, tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.