Neidio i'r prif gynnwy

Rhyw ddwy flynedd yn ôl oedd hi pan gymerais i’r cam cyntaf i roi trefn ar fy mywyd.

Rhyw ddwy flynedd yn ôl oedd hi pan gymerais i’r cam cyntaf i roi trefn ar fy mywyd. Ces y rhif ffôn gan ffrind agos a oedd wedi cysylltu â Cerrig Camu am help*. Fe gymerodd hi fis imi wneud yr alwad gyntaf yna. Unwaith roeddwn i wedi cysylltu, doedd yna ddim troi’n ôl. 

Es am fy nghyfweliad cychwynnol ac yna aros iddyn nhw benodi cwnselydd ar fy nghyfer. Fe ofynnon nhw imi a oedd ots gen i os oedd fy nghwnselydd yn ddyn. Roedd ots gen i i ddechrau, ac fe fu’n rhaid imi ystyried y peth, ond wedyn mi wnes i feddwl y gallai fod yn gyfle i ddysgu ymddiried mewn dynion unwaith eto.

Ar ôl fy sesiwn gyntaf frawychus iawn, roeddwn i’n gwybod mai fe oedd y cwnselydd iawn i mi a’i fod yn berson gwych. Bob wythnos am ychydig dros flwyddyn, fe fyddwn i’n mynd am fy awr gwnsela. Does dim angen ichi wybod beth oedd fy mhroblemau gan nad ydyn nhw’n broblemau erbyn hyn. Roedd y cyngor a’r gefnogaeth ges i drwy’r cwnsela mor werthfawr yng nghanol holl niwl a diflastod fy mywyd.

Mi wnes i sylweddoli mai dim ond oddi wrtha i fy hun roeddwn i’n rhedeg yn yr holl sefyllfaoedd roeddwn i wedi’u gadael. Erbyn hyn, dw i wedi setlo, dw i’n hyderus ac mae gen i agwedd hollol wahanol at fywyd ac at fy nheulu. Dw i ond yn difaru peidio â chwilio am gymorth ynghynt. Mae bywyd yn fendigedig, a fyddwn i ddim yn newid unrhyw beth. Mae fy amser i wedi dod.

Mae’r enw wedi ei newid 

* Elusen gofrestredig yw Cerrig Camu sy’n darparu gwasanaethau therapiwtig ar draws y Gogledd i oedolion a gafodd eu cam-drin yn rhywiol fel plant.

Siaradwch â ni nawr

Os ydych chi, aelod o’r teulu neu ffrind wedi dioddef camdriniaeth rywiol, cysylltwch â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 8010 800 i gael cyngor a chymorth 24 awr yn rhad ac am ddim, neu i drafod eich opsiynau. 

Os ydych mewn perygl neu angen sylw meddygol ar frys, ffoniwch 999 i siarad â’r heddlu neu ofyn am ambiwlans.