Ar Ddiwrnod Canser y Byd, mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi £6.5m ar gyfer gwasanaeth gofal canser digidol newydd yng Nghymru.
Bydd y system newydd yn disodli’r un a ddefnyddir ar hyn o bryd gan ganolfannau canser yng Nghymru. Bydd modd integreiddio’r system â gwasanaethau digidol lleol a chenedlaethol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, a bydd yn rhoi tawelwch meddwl i unigolion fod eu gofal canser a’u hanghenion penodol nhw yn cael eu hystyried lle bynnag y byddant yn cael eu trin. Y gobaith yw y bydd y system newydd ar gael yn genedlaethol o 2022 ymlaen.
Dywedodd Mr Gething:
Mae cyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn gwella ond rydw i am inni wella eto hyd yn oed. Dyna pam rydyn ni’n gweithio i wella prydlondeb, cysondeb ac ansawdd y gofal canser a gynigir yma yng Nghymru.
Bydd y buddsoddiad hwn yn cynnig gwasanaeth digidol mwy diogel, dibynadwy ac integredig ar gyfer gofal canser ym mhob cwr o Gymru. Bydd hefyd yn sicrhau bod cofnodion iechyd a gofal electronig unigolion yn cynnwys gwybodaeth berthnasol am eu triniaeth ganser. O ganlyniad, bydd pob unigolyn yn gallu cael y gofal sydd ei angen arno, pryd bynnag y bydd ei angen arno, a lle bynnag y bydd ei angen.
“Bydd hyn yn cefnogi’r gwaith o sefydlu Llwybr Canser Unigol cyntaf y Deyrnas Unedig ac yn helpu i wireddu ein dymuniad i adeiladu Canolfan Ganser newydd yn Felindre.