Pryd a sut y gallwch apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi draenio cynaliadwy.
Cynnwys
Pryd y gallwch apelio
Gall eich corff cymeradwyo systemau draenio cynaliadwy lleol anfon hysbysiad gorfodi atoch os ydych wedi adeiladu neu newid rhywbeth heb ganiatâd systemau draenio cynaliadwy.
Dim ond y datblygwr sydd wedi cael yr hysbysiad gorfodi all apelio yn erbyn y penderfyniad i'w gyflwyno.
Does dim ffi am apelio.
Dyddiad cau ar gyfer apelio
Rhaid i apêl gael ei gwneud o fewn y cyfnod o 4 wythnos sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad gorfodi i ddatblygwr.
Sut i apelio
Llenwch ffurflen apêl gorfodaeth systemau draenio cynaliadwy.
E-bostiwch neu postiwch y ffurflen apêl a dogfennaeth ategol yr Arolygiaeth Gynllunio. Sicrhewch fod copi o'r ffurflen apêl hefyd yn cael ei anfon at y corff cymeradwyo systemau draenio cynaliadwy lleol.
Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ