Ddiwrnod yn unig cyn i Gymru a'r DU adael yr UE, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn hyderus y bydd diwydiant diodydd y Gogledd, sy'n prysur dyfu, yn parhau i ddisgleirio.
Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer y diwydiant yn dangos bod trosiant sector bwyd a diod Cymru yn fwy nag erioed o'r blaen yn 2019, gan gyrraedd £7.473 biliwn. Roedd yn rhagori ar y targed uchelgeisiol a osodwyd yn 2014, sef sicrhau twf o 30% a gwerthiant o £7 biliwn erbyn 2020. Yn 2018, aeth 73% o'r holl fwyd a diod a allforiwyd o Gymru i'r Undeb Ewropeaidd.
Gwnaeth marchnad diodydd Cymru gryn gyfraniad i'r ffigur hwnnw gan sicrhau trosiant o £902 miliwn yn y flwyddyn ddiwethaf – sy'n dwf o 35% yn y sector ers 2014.
Mae'r diwydiant yn cynnwys amrywiaeth o gynhyrchwyr amrywiol eu maint a'u huchelgais, gan amrywio o frandiau uchel eu proffil sydd wedi ennill gwobrau, i gynhyrchwyr artisan ar raddfa fach sy'n gwerthu mewn tafarndai lleol ac yn uniongyrchol i bobl mewn gwyliau bwyd a digwyddiadau eraill.
Wrth iddi ymweld â distyllfa wisgi Aber Falls, aeth Lesley Griffiths ati i gynnig llwncdestun i lwyddiant cwmnïau diodydd y Gogledd ac i sôn am ei gobeithion ar gyfer y sector ar ôl i'r DU adael yr UE.
Dywedodd Lesley Griffiths:
Mae cwmnïau diodydd y Gogledd wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae Wrexham Lager, Purple Moose ac Aber Falls yn dri yn unig o'r rheini sydd wedi profi llwyddiant yn y DU a thramor.
Mae Aber Falls yn gwmni ffyniannus sy'n defnyddio cadwyni cyflenwi lleol i greu sawl math o wisgi a jin uchel eu hansawdd. Mae'r cwmni'n un gweddol newydd, ac mae'n galonogol gweld sut mae wedi mynd ati i allforio er mwyn cyfrannu at dwf y busnes.
Ond cwta ddiwrnod cyn inni adael yr UE, allwn ni ddim anwybyddu'r ffaith bod Brexit yn mynd i gael effaith fawr ar ein busnesau.
Dw i wedi mynegi'n barn yn glir iawn wrth Lywodraeth y DU ynglŷn â sut dylai fynd ati i gynnal trafodaethau masnach. Mae'n hollbwysig ein bod yn gallu parhau i fasnachu gyda'r UE ac nad ydyn ni'n rhoi mwy o fantais i'n cystadleuwyr.
Mae brand Cymru yn rhywbeth sy'n werth ei ddathlu ac os bydd yr amodau'n iawn, alla i ddim gweld unrhyw reswm pan na all ein sector bwyd a diod barhau i ffynnu.
Ychwanegodd James Wright, Rheolwr/Gyfarwyddwr Distyllfa Aber Falls:
Mae Gogledd Cymru wedi mynd o nerth i nerth ym maes bwyd a diod – mae tirlun naturiol y rhanbarth yn sicrhau bod cynhwysion lleol o ffynonellau cynaliadwy ar gael i’w defnyddio.
Gan fod pwyslais ar gynnyrch lleol a chynaliadwyedd ymysg defnyddwyr a chynhyrchwyr mae Aber Falls wedi mynd ati o’r dechrau’n deg i gydweithio â Llywodraeth Cymru ar sefydlu athroniaeth newydd ‘o gae i gae’. Dyma’r fenter gyntaf o’i bath yng Ngogledd Cymru ac mae wedi golygu cydweithio rhwng Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru a Phrifysgol Bangor er mwyn elwa i’r eithaf ar y tir o’n hamgylch,
Mae pwyslais Llywodaeth Cymru ar fwyd a diod yn gwbl allweddol i lwyddiant hirdymor y cwmni, ac felly mae’n bleser cael croesawu Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, yma. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at yr hyn sydd i ddod dros y chwe blynedd nesaf wrth i Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru gyhoeddi ei gynigion ar gyfer datblygu’r sector bwyd a diod yn y rhanbarth yn ystod y cyfnod 2020-2026.