Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Heddiw rwy’n cyhoeddi’r ail adroddiad blynyddol o dan strategaeth Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr, strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg.
Mae’r strategaeth yn cynnwys tair thema strategol:
- Thema 1: Cynyddu nifer y siaradwyr
- Thema 2: Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
- Thema 3: Creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun
Yn yr adroddiad hwn, gallwch weld sut rydym wedi parhau i weithredu ar draws y themâu hyn er mwyn gosod y sylfeini angenrheidiol i wneud cynnydd tuag at ein targed cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
Er mai dim ond dwy flynedd sydd ers ei lansio, mae’r adroddiad yn dangos ein bod yn gwneud cynnydd ar draws y strategaeth, ac os gallwn fynd i’r afael ag ambell faes sydd angen ei ddatblygu ymhellach, gallwn gymryd camau breision yn ystod cyfnod nesaf y strategaeth.
Linc i’r ddogfen: https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2020-01/cymraeg-2050-miliwn-o-siaradwyr-adroddiad-blynyddol-2018-19.pdf