Alun Wyn Jones
Gwobr Chwaraeon enillydd 2020
Mae Alun Wyn Jones yn chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru o'r radd flaenaf, ac ar hyn o bryd fe yw capten tîm rygbi Cymru. Yn 2019, o dan ei arweinyddiaeth enillodd y tîm y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a chyrraedd rownd cyn derfynol Cwpan Rygbi'r Byd. Ac yntau wedi ennill 134 cap, fel yw'r chwaraewr sydd â'r nifer mwyaf o gapiau yng Nghymru. Mae hefyd wedi ennill naw cap dros y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, ac mae un o'r saith chwaraewr yn unig sydd wedi curo De Affrica, Awstralia a Seland Newydd wrth chwarae yn y gwledydd hyn gyda'r Llewod. Fe hefyd oedd y chwaraewr cyntaf o chwarae ym mhob gem brawf ar dair taith olynol gyda'r Llewod Prydeinig.
Cafodd Alun ei eni yn Abertawe, a dechreuodd ei yrfa rygbi yn chwarae dros Fonymaen RFC cyn symud ymlaen i chwarae dros y Gweilch am y 14 mlynedd diwethaf. Ar ôl chwarae dros Gymru yn y tîm o dan 21, chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru ym mis Mehefin 2006 yn erbyn yr Ariannin. Yn 2008 roedd yn aelod o dîm Cymru a enillodd y Gamp Lawn. Yn 2009 roedd yn gapten Cymru am y tro cyntaf yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Yn 2013 cafodd ei ddewis fel y dirprwy capten ar gyfer y drydedd gêm benderfynol yn nhaith y Llewod Prydeinig a Gwyddelig yn Awstralia - enillodd y Llewod y gêm 41-16. Roedd hyn yn golygu mai ef oedd y dirprwy gapten cyntaf i arwain y Llewod i fuddugoliaeth yn y gêm brawf derfynol mewn cyfres ers 1904. Ar 8 Rhagfyr 2016 torrodd Alun record y Gweilch am nifer y ceisiau wedi eu sgorio gan flaenwr, wrth iddo lanio ei 21ain cais.