GAMA Healthcare a Phrifysgol Caerdydd
Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae GAMA Healthcare yn gwmni sy'n arbenigo mewn atal heintiau, ac maent yn ceisio lleihau heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd ledled y byd. Cafodd y cwmni ei sefydlu gan ddau feddyg a welodd yr angen am drefniadau gwell ar gyfer glanhau ysbytai - mae GAMA bellach yn cyflenwi cynhyrchion i bob Ymddiriedolaeth y GIG yn y DU.
Sefydlwyd partneriaeth rhwng GAMA a Phrifysgol Caerdydd sydd wedi arwain at dros £500,000 yn cael ei fuddsoddi mewn ymchwil yng Nghymru – ar ffurf grantiau ymchwil yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru ar gyfer pedwar gwyddonydd ôl-ddoethuriaeth, dau dechnegydd ymchwil a nifer o fyfyrwyr o fewn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae arbenigwyr Prifysgol Caerdydd mewn microbioleg fferyllol, wedi eu harwain gan yr Athro JeanYves Maillard, wedi bod yn allweddol i'r llwyddiant hwn.
Gyda'i gilydd mae Prifysgol Caerdydd a GAMA wedi cymryd rhan mewn llawer o Bartneriaethau Rhannu Gwybodaeth - rhaglennu sy'n cysylltu ymchwilwyr â busnesau i ysgogi arloesi a dod o hyd i atebion i broblemau. Roedd y Bartneriaeth Rhannu Gwybodaeth gyntaf yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â heintiau C.difficile yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys y treialon maes cyntaf ar un o gynhyrchion arloesol GAMA: Clinell Sporicidal Wipes, sy'n lladd 99.9999% o sborau o fewn un funud. Dangoswyd bod defnyddio clytiau sychu GAMA yn rheoli organebau sy'n gwrthsefyll llawer o gyffuriau yn well na'r mecanweithiau rheoli heintiau sydd ar waith. Enillodd y prosiect hwn Wobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd - 'Gwobr Dewis y Bobl' a'r Wobr Arloesedd Busnes'. Enillon nhw hefyd Wobr Partneriaethau Busnes ac Addysg Insider yn 2015, yn y categori Ymchwil a Datblygu.
Mae hon wedi bod yn bartneriaeth ragorol ar gyfer Cymru, yn cyfuno ymchwil arloesol a chyfleoedd cyflogaeth, ac yn cael effaith ar ein cymdeithas yn ei chyfanrwydd.