Aber Instruments
Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Cafodd Aber Instruments ei sefydlu yn 1988 pan wnaeth pedwar ymchwilydd o Brifysgol Aberystwyth a Chanolfan y Dechnoleg Amgen ddyfeisio a phatentu dull unigryw ar gyfer monitro biomas gan ddefnyddio rhwystriant amledd radio.
Mae Aber Instruments bellach yn dylunio, cynhyrchu a chyflenwi miloedd o systemau uwch i'w defnyddio yn y diwydiannau biodechnoleg, bragu, ynni bioadnewyddadwy a biodanwydd. Mae llawer o'r systemau hyn yn cael eu hallforio i dros 115 o wledydd gwahanol, ac mae cwsmeriaid Aber Instruments yn cynnwys rhai o'r cwmnïau fferyllol a'r bragdai mwyaf yn y byd.
Mae Aber yn gwmni sydd o dan berchnogaeth ei weithwyr. Mae’r cwmni yn ehangu ac ar hyn o bryd mae'n cyflogi 43 unigolyn medrus iawn mewn swyddi peirianyddol, gwyddonol a gweinyddol, sy'n arwain at swyddi cynaliadwy o ansawdd uchel yn cael eu cyflwyno i'r ardal leol. Maen nhw’n parhau i weithio gydag ysgolion a cholegau lleol a'r Brifysgol, ac yn 2017 gwnaethon nhw sefydlu eu grŵp elusennol eu hunain. Mae'r grŵp hwn wedi cefnogi RNLI Aberystwyth, Ambiwlans Awyr Cymru, Blood Bikes, RAY Ceredigion a nifer o ysgolion.
Mae eu technoleg wedi galluogi llawer o'u cwsmeriaid i gyflawni ymchwil a datblygiadau arloesol. Ar ôl deng mlynedd o fasnachu, yn 1998 enillodd y cwmni Wobr y Frenhines am Allforio.
Ar hyn o bryd maen nhw’n ehangu eu cyfleusterau gweithgynhyrchu, a byddan nhw wedi cyflwyno ystafell lân a fydd yn eu caniatáu i gynhyrchu amrediadau newydd o gynhyrchion ar gyfer eu cwsmeriaid. Yn ogystal, maen nhw wedi cyflwyno labordy arbennig ar gyfer meithrin celloedd, i'w helpu i gyflawni rhagor o ymchwil a datblygiadau – maen nhw wedi derbyn cymorth ar gyfer hyn gan SMARTCymru. Bydd y datblygiadau hyn yn galluogi.