Dr Howell Edwards
Enwebiad ar gyfer gwobr Ysbryd y gymuned
Mae Dr Howell Edwards yn dod o Gwm Rhondda yn wreiddiol. Hyfforddodd fel swyddog prawf a bu hefyd yn gweithio mewn Gwasanaethau Cymdeithasol Plant. Roedd yn gadeirydd yr elusen Plant y Cymoedd am 40 mlynedd nes iddo ymddiswyddo yn 2018. Mae'n parhau i fod yn ymddiriedolwr.
Mae hefyd yn Gadeirydd Canolfan Awyr Agored Daerwynno ar bwys Ynys-y-bwl, ac yn un o ymddiriedolwyr Ategi, sefydliad dielw sy'n darparu gwasanaethau cymorth ar gyfer oedolion sy'n anabl neu sy'n agored i niwed.
Ar y dechrau roedd Plant y Cymoedd yn grŵp i bobl ifanc, a gafodd ei sefydlu gan Howell. Mae bellach yn sefydliad arloesol a chreadigol â nifer o safleoedd, sydd wedi tynnu cyllid o bron £38 miliwn ers iddo gael ei sefydlu. Mae'r cyllid hwn wedi galluogi cyfraniad sylweddol at lesiant economaidd a chymdeithasol y bobl yn yr ardal, o dan arweinyddiaeth a gweledigaeth Dr Edwards.
Mae'r sefydliad bellach yn cyflogi 50 aelod o staff profiadol a chymwysedig, yr oedd llawer ohonyn nhw wedi dechrau fel gwirfoddolwyr, neu wedi cymryd rhan yn y rhaglen. Yn 2017/18 cymerodd cyfanswm o 13,000 o gyfranogwyr ran yn yr holl brosiectau, ac mae'r nifer hon yn cynyddu bob blwyddyn.
Mae'r prosiectau a’r gweithgareddau'n amrywio rhwng gwaith ieuenctid a chwarae, a chelf, drama a cherddoriaeth – ac mae pob un o'r rhain yn dathlu sgiliau a chyflawniadau pobl ifanc. Mae gan y prosiect celf artist preswyl ac oriel gelf, ac mae'n cydweithio ag oriel Tate Modern. Gwnaeth Plant y Cymoedd ddatblygu prosiect Mzansi Cymru hefyd fel rhan o'r Olympiad Diwylliannol yn 2012, gyda gwirfoddolwyr a pherfformwyr yn Cape Town. Uchafbwynt y prosiect hwn oedd perfformiadau cludwyr y fflam yng Nghanolfan y Mileniwm a Theatr Artscape yn Cape Town.
Mae cyfraniad Howell wedi cael effaith wirioneddol a pharhaus ar fywydau pobl ifanc, eu teuluoedd a'u cymunedau.