Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae pontio a throsglwyddo o ofal gwasanaethau plant i wasanaethau oedolion wedi cael ei amlygu fel blaenoriaeth allweddol ar gyfer gwella.
Mae gwir angen sicrhau bod pontio a throsglwyddo rhwng gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion yn broses mor ddi-dor â phosibl. Dylid hefyd sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael mynegi eu barn am y ffordd y maen nhw’n symud rhwng gwasanaethau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen a oedd yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol o sefydliadau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r trydydd sector i lunio canllawiau Llywodraeth Cymru. Diben y canllawiau hyn yw egluro sut beth yn union yw trefniadau trosglwyddo priodol mewn gofal iechyd o wasanaethau pediatrig i wasanaethau oedolion.
Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad sy’n ceisio barn ar y canllawiau newydd sy’n cynnwys llwybr drafft i helpu plant a phobl ifanc i lywio eu ffordd drwy’r system gofal iechyd.
Mae’r ymgynghoriad i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am gyfnod o 12 wythnos tan 20 Ebrill 2020.