Cam-drin Rhywiol yw hyn. Dyw hyn DDIM yn iawn
Cam-drin rhywiol yw unrhyw weithred rywiol ddigroeso, heb gydsyniad.
Gall effeithio ar unrhyw un, ar unrhyw adeg o’u bywydau. Gall ddigwydd o fewn teuluoedd neu mewn perthynas agos. Gall y person sy’n gyfrifol fod yn rhywun rydych chi’n ei adnabod neu’n ddieithryn.
Beth yw cydsyniad?
Cydsyniad rhywiol yw cytuno drwy ddewis i gyflawni gweithred rywiol, pan fo gan y person y rhyddid a’r gallu i wneud y dewis hwnnw. Efallai nad oes gan berson y rhyddid neu’r dewis i gydsynio os yw’n:
- ofni am ei fywyd neu ddiogelwch, neu am fywyd neu ddiogelwch rhywun arall
- cysgu neu anymwybodol
- analluog drwy alcohol neu gyffuriau
Mae’n bwysig gwybod y canlynol am gydsyniad rhywiol:
- mae’n bosib cydsynio i un math o weithgaredd rhywiol ond nid un arall
- mae modd tynnu cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg, hyd yn oed yn ystod gweithgaredd rhywiol
- rhaid rhoi cydsyniad bob tro mae gweithgaredd rhywiol yn digwydd
Beth yw cam-drin rhywiol?
Gall cam-drin rhywiol ddigwydd ar sawl ffurf gan gynnwys:
- trais
- ymosodiad rhywiol
- cyffwrdd mewn ffordd nad ydych yn ei hoffi heb gydsyniad
- gorfodi i gyflawni gweithred rywiol yn erbyn eich ewyllys
- defnyddio gwrthrychau mewn ffordd dreisgar neu heb gydsyniad yn ystod rhyw
- rhannu straeon neu ddelweddau rhywiol amdanoch chi heb gydsyniad
- gorfodi i ddynwared pornograffi
- gorfodi i gael eich recordio yn ystod rhyw neu
- aflonyddu rhywiol neu ddefnyddio enwau rhywiol neu ddifrïol
- cam-drin plant yn rhywiol neu losgach
- anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM)
- priodas drwy orfodaeth
- masnachu mewn pobl neu gam-fanteisio rhywiol
- rhywun yn dangos rhan bersonol o’i gorff ar-lein neu oddi ar lein
Mae trais a cham-drin rhywiol yn droseddau.
Eich dewis chi yw dweud wrth yr heddlu neu beidio. Ni ddylai ac ni all unrhyw un arall wneud y dewis ar eich rhan.
I gael rhagor o gyngor cysylltwch â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn.
Adnabod yr arwyddion
Gall dioddef camdriniaeth rywiol gael effaith andwyol, hirdymor yn emosiynol, yn seicolegol ac yn gorfforol. Gall hyn gynnwys:
- iselder ysbryd neu orbryder
- methu cysgu
- newid ymddygiad yn annisgwyl neu heb esboniad
- clefydau wedi’u trosglwyddo’n rhywiol
- ôl-fflachiau
- ystyried hunanladdiad
- anhwylder straen wedi trawma (PTSD)
- ymdeimlad o ddatgysylltiad
- anhwylderau bwyta
- hunan-anafu ac ymddygiad hunan-niweidiol
- diffyg hunan-barch a/neu hyder
Storiâu Byw Heb Ofn
Darllenwch stori Emma
Darllenwch stori Mike
Ymunwch â’r ymgyrch Cam-drin Rhywiol yw hyn
- Ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #CamdrinRhywiolYwHyn
- Lawrlwythwch ragor o wybodaeth, gan gynnwys fideos, posteri a delweddau i hyrwyddo’r ymgyrch.
Siaradwch â ni nawr
Os ydych chi, aelod o’r teulu neu ffrind wedi dioddef camdriniaeth rywiol, cysylltwch â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 8010 800 i gael cyngor a chymorth 24 awr yn rhad ac am ddim, neu i drafod eich opsiynau.
Os ydych mewn perygl neu angen sylw meddygol ar frys, ffoniwch 999 i siarad â’r heddlu neu ofyn am ambiwlans.