Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cymeradwyo gwerth £3m o gyllid i ddod â gwasanaethau iechyd ynghyd dan un to yn Rhuthun.
Bydd gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar draws pedwar safle yn y dref ar hyn o bryd yn dod ynghyd mewn Canolfan Iechyd a Llesiant yn Ysbyty Cymuned Rhuthun. Bydd y cynllun gwerth £3m, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn golygu llawer llai o deithio rhwng safleoedd ar gyfer apwyntiadau a phrofion diagnosteg i gleifion a staff. Bydd hyn yn gwneud triniaeth yn haws ac yn fwy hygyrch. Yn ogystal â meddygfa, bydd y ganolfan newydd yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau cymunedol, gan gynnwys gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd a gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl. Bydd gwell cyfleusterau ar gyfer gwasanaethau therapi yn golygu y bydd mwy o le ar gyfer gwasanaethau ffisiotherapi a phodiatreg. Fel rhan o’r cynllun, bydd y feddygfa yng Nghlinig Rhuthun yn symud o’i safle presennol gan nad yw’r safle hwnnw bellach yn cael ei ystyried yn addas i’r diben. Mae’r feddygfa ar Mount Street yn gwasanaethu bron i 3,000 o gleifion a bydd ei gwasanaethau’n cael eu trosglwyddo i safle newydd yn Ysbyty Cymuned Rhuthun ar ei newydd wedd. Bydd Cymdeithas Cyfeillion Ysbyty Rhuthun hefyd yn symud i leoliad canolog yn nhu blaen yr ysbyty, a bydd lle ar gael i wasanaethau trydydd sector a gweithgareddau fel grwpiau mamau a phlant bach. Dywedodd Gareth Evans, Cyfarwyddwr y Prosiect:
Dywedodd Dr Peter Leatt, Prif Bartner ym meddygfa Clinig Rhuthun:
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
|