Mae Llywodraeth Cymru wedi dwbli cefnogaeth i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ledled Cymru er mwyn amddiffyn, gwella a rhoi cymorth i iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Gwnaed y cyhoeddiad am y cyllid, a fydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau sy'n ymwneud â dull gweithredu ysgol gyfan Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag iechyd meddwl, gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething. Mae gweithio gyda phartneriaid ym maes addysg, tai a chyflogaeth i warchod iechyd meddwl da yn thema allweddol yn nhrydydd cynllun cyflawni strategaeth iechyd meddwl Llywodraeth Cymru, sef Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, a gyhoeddwyd heddiw hefyd. Mae'r cynllun cyflawni yn cydnabod y cynnydd a wnaed i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ac mae'n cynnwys amrywiaeth o gamau ataliol gan gynnwys gwella mynediad at fannau gwyrdd, gweithgareddau diwylliannol a hamdden awyr agored i gefnogi iechyd meddwl a lles. Fel rhan o hyn, mae'r dull gweithredu ysgol gyfan yn ceisio sicrhau bod iechyd a lles meddyliol yn dod yn ganolog i'r ffordd y mae ysgolion yn gweithio, gan arwain at ffyrdd mwy effeithiol o atal ac ymyrryd yn gynnar. Daw'r cyhoeddiad ychydig dros flwyddyn ers i Lywodraeth Cymru ffurfio Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cyd-Weinidogol i gyflymu'r gwaith ar wella cymorth iechyd meddwl a lles mewn ysgolion. Sefydlwyd y grŵp yn sgil argymhellion o'r adroddiad Cadernid Meddwl a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2018. Cadarnhaodd y Gweinidogion y byddai awdurdodau lleol yn cael £1.5m a byrddau iechyd lleol yn cael £264,000 i gefnogi prosiectau ledled Cymru. Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
|