Mae'r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) wedi cyrraedd carreg filltir arall heddiw drwy gyrraedd cam olaf proses graffu'r Cynulliad.
Mae'r Bil nawr yn symud i'r pedwerydd cam, ac mae trafodaeth a phleidlais derfynol ar y ddeddfwriaeth wedi'u trefnu ar gyfer dydd Mawrth 28 Ionawr. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio o blaid neu yn erbyn pasio'r Bil.
Os caiff y Bil Gydsyniad Brenhinol, caiff ei wneud yn Ddeddf. Os daw'r Ddeddf i rym, ni fydd rhieni ac oedolion eraill sy'n gweithredu in loco parentis yn gallu dibynnu ar amddiffyniad cosb resymol os cânt eu cyhuddo o ymosod ar blentyn neu ei guro.
Wrth i'r Bil fynd drwy'r Senedd, clywyd tystiolaeth gan ystod o gyrff, gan gynnwys Coleg Brenhinol Pediatreg, y Coleg Nyrsio Brenhinol, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a phob heddlu yng Nghymru, sy'n cefnogi egwyddorion y Bil. Mae'r Bil hefyd wedi cael ei gefnogi gan nifer o elusennau plant gan gynnwys y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, Barnardo's Cymru, Achub y Plant, Plant yng Nghymru a Gweithredu dros Blant. Mae Comisiynydd Plant Cymru hefyd wedi croesawu'r cam i newid y gyfraith.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
Yn fy marn i, mae newid y gyfraith ynghylch cosb resymol yn hanfodol mewn gwlad sy'n credu yn hawliau plant.
Mae'n bryd i Gymru ymuno â mwy na 55 o wledydd eraill ledled y byd, gan gynnwys yr Alban, i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol. Bydd y gyfraith hon yn ei gwneud yn gwbl eglur i rieni, i weithwyr proffesiynol ac i blant nad yw cosbi plant yn gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru.