Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol
Mae ein Cyn-filwyr, rhai sy'n dal i wasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd, yn gwneud cyfraniad sylweddol i’n cymunedau ac i’n wlad. Maent yn haeddu ein cefnogaeth a'n diolch am y cyfraniad hwnnw ac am yr aberthau y maent wedi'u gwneud, ac yn parhau i'w gwneud ar ein rhan.
Ar 14 Tachwedd 2018, gosodwyd Datganiad Ysgrifenedig gerbron y Senedd yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygiad Strategaeth Cyn-filwyr gyntaf y DU. Mae'r strategaeth hon yn nodi'r egwyddorion a'r nodau sydd eu hangen i barhau i ddiwallu anghenion cyn-filwyr hŷn yn ogystal â'r gymuned gyn-filwyr ehangach dros y deng mlynedd nesaf. Mae hefyd yn nodi'r amodau i gymdeithas cefnogi a grymuso ein cyn-filwyr am y 100 mlynedd nesaf.
Yn ystod 2018/2019, mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU a’r Alban, cynhaliodd Llywodraeth Cymru Ymarfer Cwmpasu. Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr Cymru yw cyfraniad Llywodraeth Cymru i'r Strategaeth Cyn-filwyr. Mae canfyddiadau’r gwaith yn rhoi adborth uniongyrchol i Lywodraeth Cymru a DU gan gymuned y cyn-filwyr yng Nghymru ar sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu ar hyn o bryd, bylchau yn y ddarpariaeth gwasanaeth, a sut y gellir gwneud gwelliannau. Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r canfyddiadau hyn.
Mae'r ddogfen bwysig hon, a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog - yr wyf yn Gadeirio – a sefydliadau partner allweddol eraill, yn nodi bylchau yn y gefnogaeth i gyn-filwyr a'u teuluoedd. Bydd yn llywio sut rydym yn targedu cefnogaeth yn y dyfodol ac yn y pen draw yn ceisio gwella'r dull y bydd y Llywodraeth hon a sefydliadau partner yn ei gymryd i gefnogi ein cyn-filwyr a chymunedau'r Lluoedd Arfog ledled Cymru dros y blynyddoedd i ddod.
Gellir gweld yr Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr Cymru yn:
Ymarfer cwmpasu Cyn-filwyr a’r Lluoedd Arfog: adroddiad ar y strategaeth
Gellir gweld y Strategaeth ar gyfer ein Cyn-filwyr yn:
https://www.gov.uk/government/publications