Data ar gyfraddau absenoldeb salwch y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG ar gyfer Hydref i Ragfyr 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Absenoldeb oherwydd salwch y GIG
Mewn ymateb i’r pandemig COVID-19 presennol, rydym yn casglu data ychwanegol a mwy amserol ar absenoldeb oherwydd salwch. Nid yw hyn wedi'i gynnwys yma gan fod y datganiad hwn ond yn cwmpasu'r cyfnod hyd at y chwarter yn diweddu 31 Rhagfyr 2019. Gwybodaeth reoli GIG Cymru yw’r data ychwanegol hyn; nid yw'n cael ei gasglu ar yr un sail â'r hyn a gyhoeddwyd yn y datganiad chwarterol hwn ac nid yw'n cael ei ystyried yn ddigon cadarn ar hyn o bryd i'w gyhoeddi. Cyhoeddir gwybodaeth ar coronafeirws a gweithgarwch a chapasiti'r GIG mewn diweddariad wythnosol.
Prif bwyntiau
- Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn 5.9%, i fyny 0.4 pwynt canran ar gyfer yr un cyfnod yn 2018.
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf, 7.5%.
- Awdurdod Iechyd Arbennig Addysg a Gwella Iechyd Cymru oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf, 3.1%.
- Y grŵp staff Cynorthwywyr a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf, 8.6%.
- Y grŵp staff Meddygol a Deintyddol oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf, 2.1%.
Adroddiadau
Absenoldeb oherwydd salwch y GIG, Hydref i Ragfyr 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 562 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.