Cod y Gwasanaeth Sifil
Cyflwynwyd i'r Senedd yn unol ag adran 5 (5) o Ddeddf Diwygio a Llywodraethu Cyfansoddiadol 2010. Cyflwynwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 5 (7) o Ddeddf Diwygio a Llywodraethu Cyfansoddiadol 2010.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Gwerthoedd y Gwasanaeth Sifil
- Nodir y sail statudol ar gyfer rheoli’r Gwasanaeth Sifil yn Rhan 1 o Ddeddf Diwygio a Llywodraethu Cyfansoddiadol 2010.
- Mae'r Gwasanaeth Sifil yn rhan annatod ac allweddol o lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae'n cefnogi'r Llywodraeth gyfredol o ran datblygu a gweithredu ei pholisïau, ac o ran darparu ei gwasanaethau cyhoeddus. Mae gweision sifil yn atebol i Weinidogion (Troednodyn 1) ac mae Gweinidogion yn eu tro yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Troednodyn 2).
- Fel gwas sifil, fe'ch penodir yn ôl eich teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, ac mae disgwyl ichi ymgymryd â'ch rôl ag ymroddiad ac ymrwymiad i'r Gwasanaeth Sifil a'i werthoedd craidd: hygrededd, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd. Yn y Cod hwn:
- ystyr ‘hygrededd’ yw rhoi rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus o flaen eich buddiannau personol eich hun
- ystyr 'gonestrwydd’ yw bod yn agored a dweud y gwir
- ystyr ‘gwrthrychedd’ yw seilio'ch cyngor a'ch penderfyniadau ar ddadansoddiad trylwyr o'r dystiolaeth, ac
- ystyr ‘didueddrwydd’ yw gweithredu yn unol â rhinweddau'r achos yn unig a gwasanaethu Llywodraethau o wahanol dueddiadau gwleidyddol mewn modd sydd yr un mor dda.
- Mae'r gwerthoedd craidd hyn yn cefnogi llywodraeth dda ac yn sicrhau bod y Gwasanaeth Sifil yn cyflawni'r safonau uchaf posibl yn ei holl waith. Mae hyn yn ei dro yn helpu'r Gwasanaeth Sifil i ennyn a chadw parch Gweinidogion, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y cyhoedd a'i gwsmeriaid.
- Mae'r Cod hwn (Troednodyn 3) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gennych chi a phob gwas sifil arall. Mae'r rhain yn seiliedig ar y gwerthoedd craidd sydd wedi’u nodi mewn deddfwriaeth. Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd ei datganiad cenhadaeth a’i datganiad gwerthoedd ei hun sy’n seiliedig ar y gwerthoedd craidd. Mae’r rhain yn cynnwys y safonau ymddygiad a ddisgwylir gennych wrth ichi ddelio â’ch cydweithwyr.
Safonau ymddygiad
Hygrededd
- Rhaid ichi:
- gyflawni eich dyletswyddau a'ch rhwymedigaethau mewn modd cyfrifol
- gweithredu bob amser mewn modd proffesiynol (Troednodyn 4) sydd yn haeddu ac yn sicrhau hyder pawb yr ydych yn delio â nhw (Troednodyn 5)
- cyflawni’ch rhwymedigaethau ymddiriedol mewn modd cyfrifol (hynny yw, sicrhau y caiff arian cyhoeddus ac adnoddau eraill eu defnyddio'n briodol ac yn effeithlon)
- delio â'r cyhoedd a'u materion mewn modd teg, effeithlon, prydlon, effeithiol a sensitif, hyd eithaf eich gallu
- sicrhau eich bod wedi cael awdurdod Gweinidogol ar gyfer unrhyw gysylltu rhyngoch chi â’r cyfryngau (Troednodyn 6)
- sicrhau eich bod wedi cael awdurdod Gweinidogol ar gyfer unrhyw gysylltu rhyngoch chi â’r cyfryngau, a
- chydymffurfio â'r gyfraith a sicrhau cyfiawnder.
- Ni ddylech:
- gamddefnyddio'ch safle swyddogol, er enghraifft drwy ddefnyddio gwybodaeth a gewch drwy'ch dyletswyddau swyddogol er mwyn eich buddiannau preifat neu fuddiannau preifat pobl eraill
- derbyn rhoddion neu letygarwch neu unrhyw fanteision eraill gan unrhyw un y gellid barnu eu bod yn amharu ar eich barn bersonol neu eich hygrededd, na
- datgelu gwybodaeth swyddogol heb ganiatâd. Mae'r ddyletswydd hon yn parhau i fod yn berthnasol wedi ichi adael y Gwasanaeth Sifil.
Gonestrwydd
- Rhaid ichi:
- nodi'r ffeithiau a'r materion perthnasol yn onest, a chywiro unrhyw wallau cyn gynted â phosibl, a
- defnyddio adnoddau at y dibenion cyhoeddus awdurdodedig y'u darperir ar eu cyfer yn unig.
- Ni ddylech:
- dwyllo neu gamarwain Gweinidogion, y Cynulliad Cenedlaethol Cymru nac eraill yn fwriadol, na
- gadael i bwysau amhriodol gan eraill na'r posibilrwydd o fantais bersonol ddylanwadu arnoch.
Gwrthrychedd
- Rhaid ichi:
- ddarparu gwybodaeth a chyngor, gan gynnwys cyngor i Weinidogion, ar sail y dystiolaeth, a chyflwyno'r opsiynau a'r ffeithiau yn gywir
- gwneud penderfyniadau yn ôl rhinweddau'r achos, a
- rhoi ystyriaeth briodol i gyngor arbenigol a phroffesiynol.
- Ni ddylech:
- anwybyddu ffeithiau anghyfleus neu ystyriaethau perthnasol wrth roi cyngor neu wrth wneud penderfyniadau; na rhwystro polisïau rhag cael eu rhoi ar waith wedi i benderfyniadau gael eu gwneud drwy wrthod neu ymatal rhag cymryd camau sy'n deillio o'r penderfyniadau hynny.
Didueddrwydd
- Rhaid ichi:
- ymgymryd â'ch cyfrifoldebau mewn modd teg, cyfiawn a chyfartal sydd yn adlewyrchu ymrwymiad y Gwasanaeth Sifil i gydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Ni ddylech:
- weithredu mewn modd sy'n ffafrio unigolion neu fuddiannau penodol yn ddireswm neu'n gwahaniaethu yn eu herbyn.
Didueddrwydd gwleidyddol
- Rhaid ichi:
- wasanaethu'r Llywodraeth, waeth beth fo'i thuedd gwleidyddol, hyd eithaf eich gallu mewn modd sy'n cynnal didueddrwydd gwleidyddol ac sy'n cyd-fynd â gofynion y Cod hwn, waeth beth fo'ch credoau gwleidyddol
- gweithredu mewn modd sy'n haeddu ac yn sicrhau hyder Gweinidogion, tra'n sicrhau ar yr un pryd y byddwch yn gallu sefydlu'r un berthynas â'r rheini y gallai fod angen ichi eu gwasanaethu mewn Llywodraeth yn y dyfodol, a
- chydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau sydd wedi'u gosod ar eich gweithgareddau gwleidyddol.
- Ni ddylech:
- weithredu mewn modd sy'n dilyn ystyriaethau pleidiau gwleidyddol, na defnyddio adnoddau swyddogol at ddibenion pleidiau gwleidyddol, na
- gadael i'ch safbwyntiau gwleidyddol personol liwio unrhyw gyngor a roddwch nac unrhyw gamau a gymerwch.
Hawliau a chyfrifoldebau
- Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'i hasiantaethau ddyletswydd i'ch hysbysu am y Cod hwn a'i werthoedd. Os ydych chi'n credu bod gofyn ichi weithredu mewn modd sy'n gwrthdaro â'r Cod hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried eich pryder a sicrhau na chewch eich cosbi am ei fynegi.
- Os oes gennych bryder, dylech siarad i ddechrau â'ch rheolwr llinell neu rywun arall yn eich cadwyn rheoli llinell. Os bydd hyn yn peri anhawster ichi am unrhyw reswm, dylech godi'r mater â swyddogion enwebedig Llywodraeth Cymru, sydd wedi'u penodi i gynghori staff am y Cod.
- Os byddwch yn ymwybodol o gamau gweithredu gan eraill sydd yn eich tyb chi yn gwrthdaro â'r Cod hwn, dylech sôn am hyn wrth eich rheolwr llinell neu rywun arall yn eich cadwyn rheoli llinell; fel arall gallwch ofyn am gyngor gan eich swyddogion enwebedig. Dylech roi tystiolaeth am weithgarwch troseddol neu anghyfreithlon i'r heddlu neu i awdurdodau rheoleiddio priodol eraill. Nid yw’r Cod hwn yn gymwys i faterion rheoli Adnoddau Dynol.
- Os ydych wedi codi mater sy'n berthnasol i baragraffau 16 i 18, yn unol â'r gweithdrefnau perthnasol (Troednodyn 7), ac nad ydych wedi cael ymateb rhesymol yn eich tyb chi, cewch hysbysu Comisiwn y Gwasanaeth Sifil am y mater (Troednodyn 8). Bydd y Comisiwn hefyd yn ystyried gwneud cwyn uniongyrchol. Ei gyfeiriad yw:
- G/08, 1 Horseguards Road, London SW1A 2HQ.
- Ffôn: 020 7271 0831
- e-bost: info@csc.gov.uk
Os na ellir datrys y mater gan ddefnyddio'r gweithdrefnau uchod, a'ch bod yn teimlo na allwch ddilyn y cyfarwyddiadau a roddir ichi, bydd yn rhaid ichi ymddiswyddo o'r Gwasanaeth Sifil.
- Mae'r Cod hwn yn rhan o'r berthynas dan gontract rhyngoch chi a'ch cyflogwr. Mae'n nodi'r safonau ymddygiad uchel y disgwylir ichi eu dilyn yn eich swydd mewn bywyd cyhoeddus a chenedlaethol fel gwas sifil. Gallwch fod yn falch o arddel y gwerthoedd hyn.
Ionawr 2017
[1] Yn y fersiwn hon o'r Cod, ystyr “Gweinidogion” yw Prif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, Dirprwy Weinidogion Cymru a Chwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru fel y cyfeirir atynt yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Efallai nad yw Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru yn Aelod Cynulliad, ond gall gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad. Ers mis Mai 2016 mae’r Gweinidogion unigol yn cael eu galw’n Ysgrifenyddion Cabinet a’r Dirprwy Weinidogion yn Weinidogion. Mater cyflwyniadol yw hyn, fodd bynnag ac nid yw’n newid y sefyllfa gyfansoddiadol. Felly, er enghraifft, bydd Ysgrifennydd Cabinet (term nad oes iddo sail gyfreithiol) yn arfer swyddogaethau un o Weinidogion Cymru.
[2] Dylai’r gweision sifil sy’n cynghori Gweinidogion fod yn ymwybodol o arwyddocâd cyfansoddiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r confensiynau sy’n llywodraethu’r berthynas rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
[3] Mae cyfrifoldebau perthnasol Prif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, Dirprwy Weinidogion Cymru a Chwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru a chynghorwyr arbennig mewn perthynas â'r Gwasanaeth Sifil wedi'u nodi yn eu Codau Ymddygiad: Cod y Gwasanaeth Sifil. Mae Cod y Gwasanaeth Sifil hefyd yn gymwys i gynghorwyr arbennig ac eithrio, i gydnabod eu swyddogaeth benodol, y gofynion am wrthrychedd a didueddrwydd (paragraffau 10-15 isod).
[4] Gan gynnwys ystyried safonau moesol sy'n rheoli proffesiynau penodol.
[5] Gan gynnwys cydnabyddiaeth arbennig o bwysigrwydd cydweithredu a pharch cilyddol rhwng gweision sifil sy’n gweithio i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig ac i’r gwrthwyneb.
[6] Gall y ddeddfwriaeth chwythu'r chwiban (Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998) fod yn gymwys hefyd mewn rhai amgylchiadau. Mae ‘Cyfeiriadur Canllawiau'r Gwasanaeth Sifil’ a ‘Cod Rheoli’r Gwasanaeth Sifil’ yn cynnig rhagor o wybodaeth.
[7] Gall y ddeddfwriaeth chwythu'r chwiban (Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998) fod yn gymwys hefyd mewn rhai amgylchiadau. Mae Cyfeiriadur Canllawiau'r Gwasanaeth Sifil a Chod Rheoli’r Gwasanaeth Sifil yn cynnig mwy o wybodaeth: Cod Rheoli’r Gwasanaeth Sifil ar GOV.UK.
[8] Ceir rhagor o wybodaeth yng Nghanllawiau Comisiwn y Gwasanaeth Sifil ar Wneud Cwynion.