Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y DU yn gadael yr UE ymhen cwta ddeng niwrnod, ac mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi rhoi sicrwydd i ffermwyr ei bod yn gweithio’n galed i sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth a’r sicrwydd y mae eu hangen arnynt er mwyn cynllunio at y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd y Gweinidog yn siarad ar achlysur Brecwast Fferm traddodiadol Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), lle bu’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei thrafodaethau diweddar gyda Llywodraeth y DU, ac yn dweud pam mae mor bwysig bod y Llywodraeth honno’n gwrando ac yn gweithredu ar safbwyntiau a phryderon diwydiant amaethyddiaeth Cymru yn ystod y cyfnod pan fydd Brexit yn cael ei weithredu.

Dywedodd Lesley Griffiths:

Bydd y DU yn gadael yr UE ymhen cwta ddeng niwrnod, gan ddod â’n haelodaeth, sydd wedi para 47 o flynyddoedd, i ben. Bydd y trafodaethau ar berthynas y DU gyda’r UE yn y dyfodol yn rhai cymhleth ac anodd. Mae angen i Lywodraeth y DU wrando ar fusnesau, gan gynnwys y diwydiant bwyd a’r diwydiant amaethyddiaeth.  

O’m rhan ni, rydyn ni am fod yn bartneriaid adeiladol. Ddydd Llun diwethaf, bûm yng nghyfarfod rheolaidd y Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Materion Gwledig, a gynhaliwyd yn Llundain. Roedd y trafodaethau’n rhai adeiladol ond bydd y misoedd nesaf hyn yn hollbwysig.  

Mae’n bwysig bod ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a busnesau eraill yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i gynllunio at y dyfodol. Mae angen inni i gyd ddeall i ba gyfeiriad mae’r DU yn mynd a pha mor gyflym mae am wneud hynny.

Dw i’n parhau i alw ar Lywodraeth y DU i roi diwedd ar yr ansicrwydd drwy gadarnhau y bydd yn darparu cyllid yn lle’r holl gyllid sy’n dod i Gymru ar hyn o bryd drwy’r UE.

Gwnaeth y Gweinidog hefyd atgoffa ffermwyr am y rôl bwysig y maent yn ei chwarae wrth arfer stiwardiaeth ar yr amgylchedd gwledig, ac am ba mor bwysig yw hi eu bod yn ymateb wrth i ddisgwyliadau cwsmeriaid newid. 

Ychwanegodd Lesley Griffiths:
 
Wrth gwrs, mae heriau eraill yn wynebu Cymru a’r byd − a ’does yr un ohonyn nhw’n fwy na’r newid yn yr hinsawdd. Mae gan bob un ohonon ni ran i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, ac mae angen i ffermwyr, sy’n geidwaid ar ein tir, fod yn ganolog i’r ymdrechion hynny.

Nid dim ond cynhyrchu bwyd mae ffermwyr. Mae eu rôl fel stiwardiaid ar yr amgylchedd gwledig yn hanfodol i lesiant Cymru. Mae llawer ohonyn nhw’n gwneud gwaith gwych wrth reoli a gwella priddoedd a chynefinoedd, a dw i’n gwybod y bydd y sector yn gallu wynebu’r her sy’n gysylltiedig â llygredd dŵr − rhywbeth sydd mor niweidiol i iechyd y cyhoedd, i fyd natur ac i’r economi wledig.

Mae defnyddwyr yn fwyfwy ymwybodol o’r effaith mae eu dewisiadau o ran bwyd yn ei chael ar yr amgylchedd. Dw i’n bendant o’r farn bod lle pwysig o hyd i gynhyrchion cig a llaeth o ansawdd uchel, sy’n cael eu cynhyrchu mewn ffordd amgylcheddol gyfrifol, mewn deiet cytbwys. Ond os ydyn ni am gwrdd â disgwyliadau defnyddwyr, sy’n prysur newid, rhaid inni greu hunaniaeth gryfach i’n hunain fel ‘cenedl fwyd’ o ansawdd uchel.

Mae’r flwyddyn sydd o’n blaenau yn debygol o fyd yn un anodd. Ond mae’r diwydiant hwn yn un sy’n llawn pobl ddiwyd a dyfeisgar. Dw i’n gwbl ffyddiog eu bod yn gwbl abl i fynd i’r afael â’r heriau hyn.