Mae’r ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw’n dangos bod nifer y myfyrwyr o Gymru sydd wedi cofrestru mewn prifysgolion yn y DU wedi cynyddu 2.6% y llynedd.
- Cynnydd o 2.6% yn nifer y bobl o Gymru sy’n cofrestru ym mhrifysgolion y DU, y cynnydd cyntaf mewn saith mlynedd
- Cynnydd o 9.2% mewn ôl-raddedigion o Gymru
- Nifer y cofrestriadau ym mhrifysgolion Cymru wedi cynyddu i 121,880
Cynyddodd nifer y myfyrwyr o Gymru yn Sefydliadau Addysg Uwch y DU i 99,310 yn 2018/19, o 96,780 yn 2017/18, gan roi terfyn ar chwe blynedd o ddirywiad.
Sbardunwyd y cynnydd cyffredinol yn bennaf gan gynnydd o 9.2% mewn myfyrwyr ôl-raddedig, o 16,665 i 18,200, yr ail flwyddyn yn olynol i’r nifer gynyddu. Mae hyn yn dilyn cyflwyno cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr ôl-raddedig yng Nghymru.
Mae’r ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn dangos bod y derbyniadau i brifysgolion Cymru wedi cynyddu hefyd, i 121,880, i fyny o 121,010 yn ystod y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd nifer y cofrestriadau ôl-raddedig ym mhrifysgolion Cymru 5.9%, ac arhosodd nifer y myfyrwyr israddedig amser llawn ar lefel debyg i 2017/18.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn diwygio cyllid myfyrwyr yng Nghymru, yn dilyn adolygiad o gyllid addysg uwch o dan arweiniad yr Athro Syr Ian Diamond, a adroddodd yn ôl yn 2016. Mae’r diwygiadau’n cynnwys cynnydd yng nghyfanswm y gefnogaeth sydd ar gael i £17,000 a mynd ati i helpu myfyrwyr gyda’u costau byw o ddydd i dydd, yn hytrach na gyda ffioedd hyfforddi yn unig. Mae’r diwygiadau hefyd yn cynnwys gwell cefnogaeth i fyfyrwyr meistr, i sicrhau bod cymwysterau ôl-raddedig yn fwy hygyrch i fwy o raddedigion.
Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi gosod nod yn flaenorol o 10% o gynnydd yn nifer y myfyrwyr ôl-raddedig o Gymru erbyn diwedd tymor y Llywodraeth yma. Mae’r ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw’n dangos cynnydd o 33% mewn cofrestriadau gan fyfyrwyr ôl-raddedig yn eu blwyddyn gyntaf o Gymru ers 2015/16.
Hefyd mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno gwell cefnogaeth i fyfyrwyr rhan-amser o flwyddyn academaidd 2018-19 ymlaen. Bu cynnydd o 6.9% yn nifer yr israddedigion rhan-amser yn eu blwyddyn gyntaf o Gymru.
Fel ymateb i’r ffigurau, dywedodd y Gweinidog Addysg:
“Rydw i eisiau gwneud addysg uwch yn fwy hygyrch i bobl o Gymru, felly mae croeso i’r ffigurau. Mae nifer y cofrestriadau’n bleserus iawn o ystyried bod nifer yr ieuenctid 18 oed yng Nghymru wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Ers i mi dderbyn argymhellion Adolygiad Diamond dair blynedd yn ôl, rydyn ni wedi diwygio ein cefnogaeth i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o Gymru, gan olygu mai ein pecyn ni yw’r un haelaf i fyfywyr yn y DU.
“Mae gwella mynediad i addysg uwch yn sbardun allweddol ar gyfer symudedd cymdeithasol. Rydw i’n hynod falch gyda’r cynnydd mewn myfyrwyr ôl-raddedig, o fwy na 1,500, mae’n chwarae rhan bwysig mewn cyflenwi ymchwilwyr ac arloeswyr talentog i helpu i dyfu ein heconomi.”