Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Rhaglen yn ceisio darparu buddsoddiad sylweddol mewn safleoedd twristiaeth allweddol a fydd yn denu buddsoddiad a thwf.

Mae’r rhaglen yn gwneud cynnydd da hyd yma, yn enwedig mewn perthynas â chwblhau cynlluniau, sicrhau arian cyfatebol, a chaffael gwasanaethau.

Mae achosion o oedi wrth gyflwyno’r rhaglen, ynghyd â data gwaelodlin anghyflawn, yn achosi heriau wrth asesu canlyniadau yn ystod y cyfnod interim hwn.

Prif ganfyddiadau

  • Mae cefnogaeth i resymeg y rhaglen a’i nod o ddatblygu cyrchfannau ac atyniadau uchel eu proffil ledled Cymru.
  • Mae Croeso Cymru wedi rheoli’r rhaglen yn effeithiol hyd yma.
  • Mae systemau a phrosesau effeithiol wedi’u datblygu a’u gwella ar gyfer rheoli’r rhaglen.
  • Mae tystiolaeth gynnar o gyfraniad y Cyrchfannau Denu Twristiaeth (TAD) at gyflenwi a chreu swyddi.
  • Ychydig iawn o ymwybyddiaeth o TAD sydd gan bobl ar wahân i’r rheini sydd wedi bod yn rhan uniongyrchol o gyflenwi’r rhaglen.
  • Gallai grŵp rhwydwaith y prosiect TAD fod ychydig yn fwy deinamig o ran hwyluso’r gwaith o gyfnewid gwybodaeth ac arferion da ymysg partneriaid.
  • Mae themâu trawsbynciol Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Cymru wedi cael eu gwneud yn rhan o’r ymyriad, ond gellid rhoi mwy o sylw i’r themâu hyn a’r iaith Gymraeg, a’u hyrwyddo’n well, ar lefel prosiectau unigol.
  • Mae lle i wella cysylltiadau â gweithgareddau a rhaglenni lleol a rhanbarthol eraill.

Adroddiadau

Gwerthusiad o’r Cyrchfannau Denu Twristiaeth: adroddiad interim , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o’r Cyrchfannau Denu Twristiaeth: adroddiad interim (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 636 KB

PDF
636 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Tom Stevenson

Rhif ffôn: 0300 062 2570

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.