Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
O dan y Cyd-drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd, mae swyddogion Llywodraeth Cymru'n cyfarfod â Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddwywaith y flwyddyn i drafod sefyllfa gyffredinol pob un o fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) mewn perthynas ag ansawdd, perfformiad gwasanaethau a rheolaeth ariannol. Mae amrywiaeth eang o wybodaeth yn cael ei hystyried er mwyn nodi unrhyw faterion a helpu i lywio'r asesiad.
Cytunwyd y byddai statws uwchgyfeirio pob sefydliad GIG yn cael ei gyhoeddi.
Mae pedair lefel uwchgyfeirio yn y fframwaith:
- Trefniadau arferol
- Monitro uwch
- Ymyrraeth wedi'i thargedu
- Mesurau arbennig.
Cynhaliwyd y cyfarfod diweddaraf ym mis Rhagfyr 2019 ac ystyriodd y grŵp sefyllfa'r holl sefydliadau ers y cyfarfod blaenorol ym mis Awst 2019. Yn dilyn y trafodaethau, mae’r Gweinidog wedi cael ei gynghori gan swyddogion i gadw'r holl sefydliadau ar eu lefelau uwchgyfeirio presennol.
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, er gwaethaf gwelliannau mewn rhai meysydd, megis iechyd meddwl, mae'r bwrdd iechyd yn parhau i wynebu agenda heriol ar gyfer gwella. Mae perfformiad presennol gwasanaethau gofal wedi'i gynllunio a gofal heb ei drefnu, ynghyd â'r sefyllfa ariannol a ragwelir, yn peri pryder ac mae'r rhain yn parhau i fod yn feysydd allweddol lle yr wyf yn disgwyl gweld gwelliannau ystyrlon. Mae pryder hefyd nad oes strategaeth glinigol gytunedig wedi'i sefydlu ac rwy'n disgwyl gweld datblygu pellach yn hyn o beth yn ystod y chwarter nesaf. Cafodd fframwaith gwella diwygiedig ei gyhoeddi’n ddiweddar. Nod y fframwaith ar ei newydd wedd yw egluro pa fath o gynnydd y bydd angen i’r bwrdd iechyd ddangos sy’n cael ei wneud ar gyfer ymateb i’r pryderon mesurau arbennig sy’n weddill.
Mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, nododd y grŵp bod y bwrdd iechyd wedi ymateb yn gadarnhaol ac mewn modd agored a thryloyw i’r pryderon ynghylch y gwasanaethau mamolaeth a llywodraethu, gan gyfeirio at sut mae bellach yn ymgysylltu â chyrff adolygu allanol. Fodd bynnag, mae difrifoldeb y problemau a graddfa'r her sy'n wynebu'r sefydliad wrth gyflawni newidiadau a gwelliannau cynaliadwy yn parhau i fod yn sylweddol. Nodwyd bod camau wedi’u cymryd, ac yn parhau i gael eu cymryd, i wella capasiti a gallu mewn sawl maes allweddol a bod amrywiaeth eang o gamau gweithredu ar y gweill. Roedd hyn yn cynnwys ymateb i'r pryderon ynghylch y diwylliant yn y sefydliad a'r angen i adennill hyder ac ymddiriedaeth y cleifion, y cyhoedd, y staff a'r rhanddeiliaid. Bydd sicrhau bod gwelliannau’n cael eu gwneud yn gyflym i'r modd y mae'r sefydliad yn ymateb i bryderon a chwynion cleifion yn rhan hanfodol o hyn.
Mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, nododd y grŵp bryderon ynghylch sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd a’i allu i fodloni ei ofynion ariannol, yn ogystal â dirywiad ym mherfformiad gwasanaethau gofal heb ei drefnu a gofal wedi'i gynllunio.
O ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wrth gyfeirio at y cynnydd a wnaed dros y ddwy flynedd ddiwethaf, nododd y grŵp bod y bwrdd iechyd yn parhau i wynebu heriau wrth fodloni ei rwymedigaethau ariannol, yn ogystal â heriau wrth ddarparu gofal y tu allan i oriau arferol.
O ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, cafwyd trafodaeth ynghylch dirywiad ym mherfformiad gwasanaethau gofal heb ei drefnu a gofal wedi'i gynllunio a'r ffaith bod angen gweld camau gweithredu clir mewn ymateb i hyn. Bydd y materion hyn yn parhau i gael eu hadolygu fel rhan o waith monitro byrddau iechyd arferol Llywodraeth Cymru.
Dengys y tabl isod statws uwchgyfeirio blaenorol a phresennol pob sefydliad.
Sefydliad | Statws blaenorol (Awst 2019) | Statws presennol (Rhag 2019) |
---|---|---|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan | Trefniadau arferol | Trefniadau arferol |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr | Mesurau Arbennig | Mesurau arbennig |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro | Monitro uwch | Trefniadau arferol |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg* | Mesurau arbennig ar gyfer mamolaeth, ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer ansawdd a llywodraethu | Mesurau arbennig ar gyfer mamolaeth, ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer ansawdd a llywodraethu |
Addysg a Gwella Iechyd Cymru | Trefniadau arferol | Trefniadau arferol |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda | Ymyrraeth wedi'i thargedu | Ymyrraeth wedi'i thargedu |
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys | Trefniadau arferol | Trefniadau arferol |
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru | Trefniadau arferol | Trefniadau arferol |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe | Ymyrraeth wedi'i thargedu | Ymyrraeth wedi'i thargedu |
Ymddiriedolaeth GIG Felindre | Trefniadau arferol | Trefniadau arferol |
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru | Trefniadau arferol | Trefniadau arferol |
* Cafodd cyn-Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ei uwchgyfeirio i statws 'monitro uwch' mewn cyfarfod ar ddechrau mis Ionawr 2019. Mewn cyfarfod ym mis Ebrill 2019, cytunwyd y dylid codi statws uwchgyfeirio Cwm Taf Morgannwg i statws 'mesurau arbennig' ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Coleg Brenhinol ac i statws 'ymyrraeth wedi'i thargedu' ar gyfer llywodraethu ac ansawdd.
Yn dilyn y broses o newid y ffin ym mis Mawrth 2019, daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.