Daeth yr ymgynghoriad i ben 6 Rhagfyr 2016.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 407 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn chi ar gynigion ynghylch defnyddio gweithwyr asiantaeth dros dro i gyflenwi staff gwasanaethau cyhoeddus Cymru os ydyn nhw ar streic neu yn gweithredu’n ddiwydiannol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymgynghori ar gynigion i gael gwared ar reoliadau sy’n atal busnesau cyflogaeth rhag darparu gweithwyr asiantaeth i gyflenwi staff yn ystod gweithredu diwydiannol. Rydym yn ymgynghori ar gynigion sy’n cynnal egwyddor y rheoliad o fewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru pe byddai Llywodraeth y DU yn penderfynu cael gwared arno.