Mae adroddiad cynnydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Llun 13 Ionawr) wedi dangos sut mae grant o £36 miliwn gan Lywodraeth Cymru i leihau maint dosbarthiadau babanod yn ‘gwneud gwahaniaeth go iawn’ i ysgolion ledled Cymru.
Mae’r adroddiad yn dangos sut y mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd o ran lleihau maint dosbarthiadau babanod yn yr ysgolion a dargedwyd ers lansio’r grant ym mis Ebrill 2017. Roedd lleihau maint dosbarthiadau babanod yn rhan allweddol o’r Cytundeb Blaengar rhwng Kirsty Williams a Phrif Weinidog Cymru. Yn unol â thystiolaeth ryngwladol, mae’r polisi’n targedu’r ysgolion a fyddai’n elwa fwyaf ar gael dosbarthiadau llai, fel ysgolion â lefelau uchel o amddifadedd, anghenion dysgu ychwanegol a/neu lle mae angen gwella'r addysgu a'r dysgu. Dyma rai o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad:
Ers ei gyflwyno, mae 388 o ddosbarthiadau babanod wedi elwa ar y polisi, gyda’r canlyniad fod 770 dysgwr yn ychwanegol mewn dosbarthiadau o lai nag 20, a 2,592 yn llai o ddysgwyr mewn dosbarthiadau o 29 a throsodd. I gyd-fynd â chyhoeddi’r adroddiad, aeth y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams i Ysgol Gynradd Penyrheol yn Abertawe - ysgol sydd wedi elwa, drwy’r prosiect, ar ddau athro ychwanegol, dau gynorthwyydd addysg a £162,812 o gyllid cyfalaf ar gyfer ystafelloedd dosbarth ychwanegol. Maint dosbarthiadau babanod yr ysgol erbyn hyn yw 23 ar gyfartaledd. Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
Ychwanegodd Pennaeth Ysgol Gynradd Penyrheol, Alison Williams:
|