Ken Skates AM, Minister for Economy and Transport
Cyhoeddodd Liberty Steel ddoe y bydd cyfnod o ymgynghori ynghylch diswyddiadau yn ei gyfleuster yng Nghasnewydd. Mae hefyd wedi cyhoeddi manylion ynghylch diswyddiadau eraill ar draws y DU.
Dyma newyddion siomedig iawn ac rydym yn awyddus i bwysleisio y byddwn yn gwneud popeth posibl er mwyn cefnogi’r gweithlu. Nodwn fod y cwmni’n rhagweld y bydd y diswyddiadau hyn yn rhai gwirfoddol. Wrth i ragor o wybodaeth gael ei chyhoeddi bydd ein rhaglen ReAct ar gael i gefnogi’r bobl y bydd cyhoeddiad heddiw’n effeithio arnynt. Byddwn hefyd yn sicrhau cymorth iddynt gan bartneriaid lleol.
Calonogol yw clywed bod y cwmni’n parhau’n ymrwymedig i ddyfodol hirdymor safle Casnewydd. Rydym oll yn ymwybodol o’r ffaith bod y sector yn parhau i wynebu heriau sylweddol, ar lefel fyd eang ac ar lefel ddomestig, ac yn sicr nid Liberty Steel yw’r unig gwmni sy’n gwneud penderfyniadau anodd ar hyn o bryd.
Mae hi bellach yn gwbl allweddol fod Llywodraeth y DU yn gwrando ar y sector dur ac yn cymryd camau ar frys er mwyn diogelu dyfodol y diwydiant o fewn y DU. Rwyf wedi ysgrifennu eto at Andrea Leadsom, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, gan alw arni i gynnull ar frys rhwng y diwydiant dur a rhanddeiliaid allweddol.