Gwybodaeth ar gyfer Maes Awyr Cymru Caerdydd, gan gynnwys symudiadau awyrennau, teithwyr a nwyddau a thraffig teithwyr awyr rhyngwladol ar gyfer 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cludiant awyr
Gwybodaeth am y gyfres:
Image
Prif bwyntiau
- Yn 2019, gwelwyd nifer y teithwyr sy'n defnyddio maes awyr Rhyngwladol Caerdydd yn cynyddu 4.3% i 1.63 miliwn. Mae'r ffigurau'n cynnwys teithwyr sy'n cyrraedd ac yn gadael.
- Yn 2019, roedd awyrennau o faes awyr Caerdydd yn hedfan i 76 o gyrchfannau tramor, 19 yn fwy nag yn 2018.
- Amsterdam oedd y cyrchfan tramor mwyaf poblogaidd yn 2019 a Chaeredin y cyrchfan domestig mwyaf poblogaidd.
- Cafwyd tua 32,000 o hediadau i mewn ac allan o faes awyr Rhyngwladol Caerdydd yn 2019, cynnydd o 2.6% o'u cymharu â 2018.
- Wedi cyfnod o ychydig iawn o symudiadau cludo nwyddau, cafodd 1,800 tunnell o nwyddau eu cludo drwy faes awyr Caerdydd yn 2019, cynnydd o 23.6% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
- Dim ond 13.0% o deithwyr oedd wedi teithio i Faes Awyr Caerdydd gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn 2019.
Adroddiadau
Cludiant awyr, 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.