Daeth yr ymgynghoriad i ben 22 Rhagfyr 2016.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 300 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem gael eich barn ar gynigion i gynnwys digwyddiadau’n ymwneud â llifogydd a dŵr yn rhan o ddyletswydd statudol Awdurdodau Tân ac Achub Cymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar gynnig i estyn dyletswyddau’r Awdurdodau Tân ac Achub fel bod digwyddiadau’n ymwneud ag achub o lifogydd a dŵr yn cael eu cynnwys.
Yn ogystal ag ymladd tanau a hyrwyddo camau diogelwch rhag tan, mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdodau Tân ac Achub ymateb i ddamweiniau ffyrdd a digwyddiadau penodol eraill megis gollyngiadau cemegol neu achub pobl o adeiladau sydd wedi dymchwel. Er hynny, nid oes dyletswydd statudol ar hyn o bryd o ran llifogydd na digwyddiadau eraill yn ymwneud â dŵr.