Mae'r adroddiad yn cyflwyno gwariant y GIG fesul rhaglen ofal dyrannu ar sail y cyflwr meddygol y mae'r gwariant yn ymwneud ag ef ar gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cyllidebau Rhaglenni Gwariant y GIG
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Cyfanswm y gwariant ar gyfer holl gategorïau'r gyllideb oedd £6.8 biliwn neu £2,167 y pen o’r boblogaeth.
- Roedd cyfanswm y gwariant yn 2018-19 yn 4.1% yn uwch na gwariant yn 2017-18 a 30.1% yn uwch na degawd yn ôl.
- Y categori dan raglen y gyllideb gyda’r cynnydd mwyaf (ac eithrio ‘arall’) oedd ‘canserau a thiwmorau’, gyda chynnydd o £34 miliwn (7.3%) ers 2017-18.
- Y categori sengl mwyaf o dan raglen y gyllideb (ac eithrio ‘arall’) oedd ‘problemau iechyd meddwl’ a oedd yn cyfrif am 11.1% o’r cyfanswm.
- Roedd gwariant y pen o’r boblogaeth, ar raglenni clinigol (ac eithrio ‘arall’), yn amrywio o £11.73 ar ‘broblemau clyw’ i £240.82 ar ‘broblemau iechyd meddwl’.
Adroddiadau
Cyllidebau Rhaglenni Gwariant y GIG, Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 558 KB
PDF
558 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.