Mae cymuned ym Mannau Brycheiniog wedi'i thrawsnewid ar ôl i'r trigolion ddod ynghyd er mwyn sicrhau cyswllt band eang cyflym iawn, a hynny gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.
Gall trigolion ym mhentref Crai bellach fanteisio ar gyflymder o hyd at 32 Mbps o'i gymharu â'u cyflymder blaenorol o 1.5 Mbps.
Daeth trigolion y gymuned ynghyd drwy bwyllgor rheoli eu neuadd bentref leol i ystyried atebion posibl i'w band eang araf. Gwnaethant ymchwilio i nifer o opsiynau posibl cyn dewis band eang Di-wifr Microdon.
Gwnaethant sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect o gynllun Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru. Er nad oedd angen i'r gymuned gyfrannu yn ariannol gwnaeth nifer ohonynt gyfrannu mewn gwahanol ffyrdd fel rhoi o'u hamser rhydd i helpu a chynnig eu harbenigedd.
Y darparwr gwasanaeth oedd Dyfed IT a gwnaethant hwy hefyd gynnig cymorth a chyngor ymarferol i'r gymuned.
Erbyn hyn mae gan dros 80 eiddo yn y gymuned gyswllt band eang cyflym iawn, sy'n golygu y gall y trigolion bellach weithio gartref, siopa ar-lein, gwylio Netflix a gwasanaethau ffrydio eraill ac mae hefyd yn haws i'r plant wneud eu gwaith cartref.
Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters:
"Er y gall y rhan fwyaf o safleoedd yng Nghymru fanteisio ar gysylltiad band eang erbyn hyn rydym ni'n gwybod bod yn rhaid cysylltu â'r pum y cant sy'n weddill. Un ffordd o sicrhau hyn yw drwy annog cymunedau i ddod ynghyd a chanfod ateb y gall un o'n cynlluniau grant a thalebau ei ariannu.
“Mae'n ffordd wych o alluogi cymunedau cyfan i fanteisio ar gyswllt cyflymach a gwych yw gweld sut y mae cymuned Crai wedi newid er gwell ers derbyn band eang cyflym iawn.
"Rydym hefyd yn creu cronfa gymunedol newydd gwerth £10m a fydd yn cynnig rhagor o gymorth i gymunedau sy'n wynebu'r un rhwystrau â Chrai.
"Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddarparu band eang dibynadwy a chyflymach ond rydym wedi penderfynu cynnig cymorth os nad yw'r farchnad yn bwriadu darparu gwasanaeth ac os nad yw Llywodraeth y DU wedi ymyrryd.
Dywedodd David Ross o Grai:
“Petawn i'n rhoi cyngor i gymuned arall sydd am wneud rhywbeth tebyg, byddem yn barod i'w cynghori bod y dull hwn wedi gweithio'n dda i ni. Roedd y broses gychwynnol o drefnu pethau a sicrhau nifer digonol o aelwydydd a busnesau yn gwbl allweddol i'n llwyddiant.
“Gwnaeth ein busnesau lleol fel ffermydd a darparwyr llety gwyliau brofi manteision sylweddol ar unwaith. Daeth manteision eraill i'r amlwg yn fuan iawn gan y gallai aelodau o'r gymuned weithio gartref, pan fu'n rhaid iddynt deithio i'w swyddfeydd yn y gorffennol.
Dywedodd Charles Weston, ffermwr sy'n gweithio ar draws dau safle yng Nghrai ac sy'n rhedeg llety gwyliau prysur:
“Mae cyflwyno band eang cyflym iawn yng Nghrai wedi trawsnewid fy mywyd gwaith.
"Mae sicrhau cysylltiad rhyngrwyd cyflym yn gwneud tasgau gweinyddol cymaint yn gyflymach ac yn fwy pleserus.
“Fy nghyflymder blaenorol oedd 0.4 Mbps ond mae bellach wedi cynyddu i 30. Heb unrhyw amheuaeth dyma un o'r pethau gorau sydd wedi digwydd i Crai ers amser maith.
Cewch ragor o wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael o ran band eang cyflymach yma