Mae’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cadarnhau cyllid ffermydd yng Nghymru ar gyfer 2020 yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd yn darparu £243miliwn ar gyfer y Cynllun Taliad Sylfaenol yn 2020.
Bydd ffermwyr yng Nghymru’n cael taliad y Cynllun Taliad Sylfaenol yn 2020 ar yr un lefel ag yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bydd y gefnogaeth i economi wledig Cymru a’r amgylchedd yr orau bosib ar ôl Brexit drwy drosglwyddo 15% o gyllideb 2020 ar gyfer y Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) i gefnogi datblygiad gwledig yn 2021/22.
O dan y Polisi Amaeth Cyffredin, mae gan aelod wladwriaethau a gweinyddiaethau hawl i drosglwyddo hyd at 15% o gyllideb y BPS i’r gyllideb Datblygiad Gwledig.
Mae modd buddsoddi’r cyllid hwn mewn amrywiaeth o gynlluniau a blaenoriaethau pwysig, gan gynnwys y canlynol:
- Cefnogaeth i ffermwyr i wneud eu busnes yn fwy amgylcheddol gyfeillgar drwy leihau carbon ac allyriadau tŷ gwydr,
- Prosiectau sy’n creu gwelliannau mewn ansawdd dŵr ac aer,
- Gwella gwytnwch ein cynefinoedd a’n rhywogaethau gwerthfawr,
- Rhaglenni plannu coed gan gynnwys cefnogaeth i’r Goedwig Genedlaethol ar gyfer Cymru,
- Cefnogaeth i’n busnesau bwyd a diod ar ôl Brexit.
Dywedodd Lesley Griffiths:
Mae Cymru wedi elwa o flynyddoedd lawer o fuddsoddiad Ewropeaidd, gan gynnwys mewn amaethyddiaeth a datblygiad gwledig. Mae hyn yn hanfodol bwysig i ffermwyr Cymru ac i gymunedau gwledig.
Rydyn ni’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw gan Drysorlys EM ond gadewch i ni fod yn glir, dim ond cadarnhau ymrwymiadau a wnaed eisoes yw hyn.
Hoffwn alw ar Lywodraeth y DU i roi gwarant o gyllid ar gyfer amaethyddiaeth, ac i addo cyllid yn lle’r cyllid presennol gan yr UE ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Bydd hyn yn galluogi i ni gynllunio gwaith pwysig yn y dyfodol i gefnogi amaethyddiaeth, datblygu'r economi, mynd i’r afael â newid hinsawdd a gwarchod ein hamgylchedd.