Bydd Croeso Cymru yn nodi dechrau Blwyddyn Awyr Agored Cymru gydag ymgyrch newydd hyderus – sy'n llawn hwyl ac yn hyrwyddo Cymru fel lle o brofiadau awyr agored eithriadol i bawb.
- Blwyddyn Awyr Agored yw'r diweddaraf yng nghyfres Croeso Cymru o’r blynyddoedd thematig poblogaidd
- Pobl leol sy’n caru’r awyr agored yn ymuno â wynebau adnabyddus i arwain y ffordd i fwynhau’r awyr agored.
Bydd rhan gyntaf yr ymgyrch yn cael ei darlledu ar 1 Ionawr gyda ffilm newydd yn dangos ar y teledu ac ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Croeso Cymru a fideo ar alw ac yn rhoi blas o’r hyn sydd i ddod yn 2020.
Mae'r ymgyrch yn gwahodd pobl i ddarganfod profiadau newydd, i ddathlu'r awyr agored a gadael i'r awyr agored i mewn. Mae’r ymgyrch yn cynnwys nofwyr, syrffwyr, beicwyr, cerddwyr a llawer o bobl eraill, ynghyd â wynebau adnabyddus o Gymry megis Luke Evans ac Eve Myles. Wrth wraidd yr ymgyrch mae'r nod o ddangos y Gymru go iawn, gan gynnwys y croeso a'r ymdeimlad o gymuned a’r cysylltiad rhwng yr awr agored ag iechyd a llesiant.
Fel rhan o’r ymgyrch mae’r y nofiwr Olympaidd Jazz Carlin yn mynd gyda'r grŵp nofio o Sir Benfro, The Bluetits Chill Swimmers, ar daith i draeth Harlech. Cafodd y Bluetits Chill Swimmers ei sefydlu gan Siân Richardson yn Sir Benfro yn 2014 gyda Tracey Sharratt.
Dywedodd Siân:
“Dechreuodd ein grŵp yn Sir Benfro gyda grŵp o bobl ddiarth a oedd i gyd yn dwlu ar yr awyr agored. Mae ymdeimlad gwych o berthyn a chynhwysiant ... o ystyried bod ein grŵp yn cynnwys aelodau rhwng 18 a 68 mlwydd oed. Dw i wedi bod wrth fy modd yn gweld yn uniongyrchol y ffordd mae pobl hŷn a phobl iau yn gallu dod at ei gilydd i helpu ei gilydd i fagu cryfder yn feddyliol ac yn gorfforol."
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:
"Mae perthynas gynhenid wedi bod rhwng pobl cymru a'r awyr agored erioed. Wrth gwrs, mae’n tirweddau yn ysbrydoledig ond y maent hefyd yn llawn o’n hanes ein iaith a’n diwylliant . Yn 2020, rydym yn gwahodd pobl i ddarganfod yr awyr agored o’r newydd.”
(Gyda llaw, mae’r ymgyrch hefyd yn cynnwys ymwelydd go iawn â Chymru ... ci defaid Cymreig hyfryd o Fanceinion a oedd ar wyliau gyda'i berchnogion yn Aberporth!)