Mae £2.4m ychwanegol wedi cael ei ymrwymo gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).
Mae’r cyllid newydd, a gyhoeddwyd yn ffurfiol yr wythnos ddiwethaf gan y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans, yn ychwanegu at y £5m sydd wedi’i neilltuo eisoes gan Lywodraeth Cymru ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector, awdurdodau lleol a phrosiectau ar gyfer gwasanaethau a rhaglenni ledled Cymru.
Mae’r cyhoeddiad am y Gyllideb ddrafft wedi’i rannu yn dri swm:
- £1.2m i sefydliadau’r trydydd sector i brynu llety hyblyg ar gyfer teuluoedd;
- £969,000 i sefydliadau i brynu, cynnal neu uwchraddio adeiladau ac offer i gefnogi gwasanaethau VAWDASV;
- £250,000 i 5 prosiect ychwanegol ledled Cymru.
Mae ystadegau’n dangos bod merched yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan gam-drin domestig a chan mai hwy sy’n rhoi’r gofal yn bennaf yn eu teuluoedd, maent yn fwy tebygol hefyd o ffoi gyda phlant. Bydd yr £1.2m yn galluogi sefydliadau i brynu tai cymunedol sy’n gallu diwallu anghenion teuluoedd yn well lle nad yw lloches yn briodol efallai, neu fel cam nesaf ar ôl lloches, sy’n cael ei adnabod fel llety ‘symud ymlaen’.
Bydd y cyllid o £969,000 yn cynorthwyo cyrff gwirfoddol a statudol i brynu neu adnewyddu adeiladau er mwyn gwella eu gwasanaethau cefnogi. Mae’r gwelliannau hyn yn cynnwys gwella mynediad i bobl anabl, darparu mannau aros penodol i wahanu dioddefwyr a throseddwyr, a galluogi addasiadau i lochesi cyfunol i greu llety ‘symud ymlaen’ preifat.
Hefyd bydd sefydliadau’n gallu buddsoddi mewn offer newydd, er enghraifft, prynu technoleg a fydd yn galluogi gweithwyr cefnogi i gyrraedd dioddefwyr mewn ardaloedd gwledig yn well.
Mae’r £250,000 yn cynnwys cyllid i hyfforddi staff i gefnogi dioddefwyr DALlE, cefnogi’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, lleihau amseroedd aros ar gyfer cwnsela, datblygu dulliau o gefnogi troseddwyr, ynghyd â chodi ymwybyddiaeth o gam-drin a thrais domestig ymhlith y rhai sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip:
“Rydyn ni’n benderfynol o fynd i’r afael â’r holl drais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
“Er bod angen sylfaenol am ganolbwyntio ar atal, mae yr un mor hanfodol bod dioddefwyr a goroeswyr yn cael cefnogaeth lawn ar yr un pryd. Mae’r cyhoeddiad hwn am y Gyllideb ddrafft yn sicrhau ein bod mewn gwell sefyllfa fel llywodraeth i weithredu i wneud hynny.”
Bydd Cymorth i Fenywod yn Rhondda Cynon Taf yn darparu llety ‘symud ymlaen’ o fis Ebrill 2020 ymlaen, gyda chefnogaeth cyllid blaenorol gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd eu Prif Weithredwr Charlie Arthur: “Mae Cymorth i Fenywod RhCT wedi prynu eiddo preswyl yng nghymoedd y Rhondda yn ddiweddar i ddarparu llety symud ymlaen i deuluoedd nad ydynt angen cefnogaeth ddwys lloches mwyach ond nad ydynt yn barod eto i symud i’w tai eu hunain.
“Yn aml rydyn ni’n gweld teuluoedd gyda phryderon diogelu sylweddol neu unigolion ag iechyd meddwl gwael sydd angen carreg gamu interim i’w cefnogi i symud ymlaen yn llwyddiannus i fyw yn annibynnol drwy ddull o weithredu cam wrth gam.”
Os ydych chi wedi dioddef unrhyw fath o gam-drin domestig neu eisiau helpu rhywun rydych chi'n ei adnabod, ffoniwch linell gymorth am ddim a chyfrinachol Byw Heb Ofn, a ariennir Llywodraeth Cymru, ar 0808 8010 800 neu ewch i bywhebofn.llyw.cymru i anfon neges at gynghorydd 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.