Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi £8 miliwn i gwblhau’r gwaith o drawsnewid parc iechyd ym Mhontypridd, sy’n costio £10 miliwn.
Mae Parc Iechyd Dewi Sant yn cael ei ailddatblygu i dynnu ynghyd amrywiaeth o wasanaethau cymdeithasol ac iechyd o dan un to, gan gynnwys gwasanaethau meddyg teulu, deintyddiaeth, iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, yn ogystal â darparu ystafelloedd radioleg ddiagnostig sydd wedi eu hadnewyddu.
Rhoddwyd £1.5 miliwn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar gyfer cam cyntaf y prosiect ym mis Tachwedd 2016. Disgwylir i’r ail gam, sef y cam terfynol, gael ei gwblhau erbyn yr haf 2021.
Dywedodd Mr Gething:
Dw i wrth fy modd o allu rhoi’r cyllid hwn ar gyfer creu parc iechyd a gofal cymdeithasol integredig ym Mhontypridd. Yn unol â’r weledigaeth yn ein cynllun Cymru Iachach, bydd y buddsoddiad hwn yn tynnu ynghyd wasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd o dan un to, gan sicrhau bod pobl yn gallu cael gofal yn nes at eu cartrefi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein hysbytai a chanolfannau iechyd. Yn ein cyllideb ddrafft ar gyfer 2020-21, a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, fe wnaethon ni gyhoeddi y bydden ni’n gwneud buddsoddiad cyfalaf ychwanegol o £36 miliwn cyfalaf mewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
Dywedodd Alan Lawrie, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol ac Iechyd Meddwl sylfaenol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
Rydyn ni mor falch o allu parhau â’r gwaith gwych ym Mharc Iechyd Dewi Sant. Mae’r cam datblygu cyntaf wedi ein galluogi i roi mwy o ofal i gleifion yn nes at eu cartrefi, gan weithio gyda’n partneriaid yn y trydydd sector a awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn darparu’r gofal a chymorth gorau posibl.
Bydd y gwaith parhaus hwn yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng ein holl wasanaethau er mwyn i’r arbenigwyr a thimau priodol allu gweld cleifion yn gyflym, a rhoi triniaeth i'r claf yn y lle gorau ac ar yr adeg iawn.