Daeth yr ymgynghoriad i ben 1 Mai 2016.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r y crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 230 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn cynnig bod profion llygaid yn cael eu cynnig i ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion arbennig.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Bydd yn rhan newydd o Wasanaethau Gofal Llygaid Cymru sy’n bodoli eisoes fel rhan o ofal sylfaenol.
Bydd timau Offthalmig Ysgolion Arbennig a fydd yn cynnwys optometryddion orthoptwyr ac optegwyr cyflenwi yn darparu’r gwasanaeth i ddisgyblion yn yr ysgol yn ystod amser ysgol.
Mae nam ar y golwg a dallineb yn gymharol brin ymysg plant. Serch hyn mae gan blant ag anableddau dysgu risg llawer uwch o broblemau gyda’u golwg ac anhwylderau iechyd llygaid. Yn ogystal mae yna dystiolaeth bod rhwystrau sy’n eu rhwystro rhag cael gofal llygaid ac felly bod llawer o anghenion nad ydynt cael eu diwallu.