Bydd Cymru yn dod â'r arfer o ddefnyddio plastigau untro i ben yn raddol, fel rhan o'i huchelgais i arwain y byd ym maes ailgylchu.
Heddiw mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol i weithredu i ailddefnyddio adnoddau ac i osgoi gwastraff er mwyn sicrhau dim gwastraff a sero carbon net, ac i fod yn wlad sy'n achub ar y cyfleoedd economaidd a chymdeithasol i sicrhau gwlad wyrddach, fwy cyfartal a mwy ffyniannus.
Ers datganoli, mae Cymru wedi dod yn un o arweinwyr y byd ym maes ailgylchu. Mae pob aelwyd wedi chwarae ei rhan i helpu Cymru i fod y wlad orau yn y DU o ran ailgylchu; y drydedd wlad orau yn Ewrop a'r bedwaredd wlad orau yn y byd. Rydyn ni fel cenedl yn frwd dros ailgylchu. Heddiw bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Mwy nag Ailgylchu, sydd â'r nod o symud Cymru tuag at fod yn economi gylchol – gan ailddefnyddio adnoddau cynifer o weithiau ag y bo modd ac osgoi gwastraff.
Y nod yw nid yn unig sicrhau dim gwastraff erbyn 2050, ond hefyd gweithredu ar yr Argyfwng Hinsawdd a bachu ar y cyfle economaidd ar gyfer Cymru. Mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, wedi pwysleisio pa mor awyddus yw Llywodraeth Cymru i ysgogi'r trawsnewidiadau sydd eu hangen i wireddu economi gylchol yng Nghymru. I gynnal ein momentwm wrth i’r ymgynghoriad gael ei gynnal, mae'r Dirprwy Weinidog hefyd yn lansio Cronfa Fuddsoddi'r Economi Gylchol ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff eraill sy'n derbyn arian cyhoeddus. Bydd y gronfa hon yn eu helpu i gymryd camau i gyflymu'r broses o symud Cymru i economi gylchol, ac mae'n adeiladu ar y cyllid a gyhoeddwyd ynghynt eleni i helpu busnesau i ddefnyddio rhagor o ddeunyddiau sydd wedi cael eu hailgylchu.
Dywedodd:
Mae Cymru eisoes yn arwain y ffordd yn y DU ym maes ailgylchu, ond dw i am inni fynd ymhellach a chymryd y cam nesaf. Rydyn ni ar siwrnai tuag at ddod yn economi gylchol lle rydyn ni'n osgoi gwastraff ac yn ailddefnyddio adnoddau cynifer o weithiau ag y bo modd.
Ein cymunedau yw asgwrn cefn Cymru, ac ro'n i wrth fy modd yn cael lansio'r ymgynghoriad yn Llangollen. Mae'n gymuned sydd wedi dod ynghyd i leihau faint o blastig mae’n ei ddefnyddio, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a manteisio ar y cyfleoedd busnes sy'n dod o ddefnyddio deunyddiau rydyn ni'n gallu eu hailddefnyddio a deunyddiau cynaliadwy.
Mae'r ymgynghoriad yn cael ei lansio yn Llangollen, sydd wedi cyrraedd statws diblastig. Mae ysgolion a busnesau yn y dre yn hyrwyddo materion sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd, ac mae pobl yn dod ynghyd i wneud gwahaniaeth. Mae Mwy nag Ailgylchu yn amlinellu wyth cam gweithredu uchelgeisiol:
- arwain y byd o ran ailgylchu
- cael gwared ar blastig untro yn raddol
- buddsoddi mewn technoleg lân ar gyfer casglu deunyddiau
- gwneud defnydd mwy effeithlon o'n bwyd ni
- blaenoriaethu prynu pren a chynnyrch sydd wedi’i ailweithgynhyrchu a'i ailgylchu
- galluogi cymunedau i weithredu ar y cyd
- creu'r amodau i fusnesau achub ar y cyfleoedd
- ysgwyddo cyfrifoldeb llawn am ein gwastraff
Gan annog pobl i ddweud eu dweud, ychwanegodd y Dirprwy Weinidog:
Ymunwch â ni a gweithredu’ yw ein neges ichi nawr – chi sy'n gwneud y gwaith ailgylchu, chi yw'r grwpiau sy'n gweithio i wella eich cymunedau, chi yw'r busnesau sy'n dod o hyd i ffyrdd newydd o ddefnyddio deunyddiau a oedd ar un adeg yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi.
Rydyn ni eisiau siarad â chi. Dyma eich cyfle i fynegi eich barn ar ein cynigion, ac i feddwl am syniadau a chamau gweithredu newydd. Byddwn ni'n cynnal digwyddiadau ar-lein ac mewn cymunedau ledled Cymru, ac mae adnoddau i'ch helpu i ddod ynghyd ac ymateb.
Dw i eisiau clywed gan gymaint o bobl a sefydliadau ag y bo modd. Gyda'i gilydd gall ein hymatebion wneud gwahaniaeth mawr.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ac am yr wyth cam gweithredu pennawd ewch i: https://llyw.cymru/ymgyngoriadau