Bu’r ymchwil yn adolygu fformiwlâu cyfredol, a gwaith maes a gwblhawyd ar y cyd ag awdurdodau lleol. Mae hefyd yn cynnig opsiwn ar gyfer fformiwla ariannu newydd o dan y Grant Cymorth Tai.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae’r adroddiad yn awgrymu’r camau canlynol i ddatblygu fformiwla ariannu newydd ar gyfer y Grant Cymorth Tai:
- cadw at gynseiliau setliad llywodraeth leol
- defnyddio Cynlluniau Gwariant 2019/2020 i lywio dyluniad fformiwla
- addasu’r fformiwla ar gyfer gwledigrwydd a phrinder poblogaeth
- addasu’r fformiwla i ymdrin â'r newidiadau mwyaf posibl mewn cyllid
- cynllunio trefniadau pontio
Dyma brif ganfyddiadau’r fformiwla arfaethedig:
- bydd ailddyrannu cyllideb sefydlog yn arwain at rai awdurdodau lleol yn derbyn mwy o arian
- bydd lefelu’r amrywiad penodol o ddyraniad cyfredol cyllideb Cefnogi Pobl yn gweld 12 awdurdod lleol yn profi newid mewn ariannu (naill ai cynnydd neu ostyngiad) o 10% neu fwy
- mae’r dyraniad ariannu cymharol wedi’i ddyrannu’n fwy cyfartal o lawer fesul pen o’r boblogaeth o dan y fformiwla ariannu newydd
- mae rhai o’r awdurdodau lleol sy’n gweld y lleihad mwyaf yn eu dyraniadau ariannu yn parhau i fod ymhlith y rhai a ariennir orau o’u cymharu ag eraill
Adroddiadau
Grant Cymorth Tai: datblygiad fformiwla ariannu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Rhian Davies
Rhif ffôn: 0300 025 6791
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.