Mae cytundeb cryf ar gyfer diwydiant pysgota Cymru wedi ei sicrhau a fydd yn gwarchod stociau pysgod Cymru ac yn cefnogi cymunedau arfordirol, yn ôl Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn dilyn cytundeb ym Mrwsel ar gyfleoedd pysgota yr UE ar gyfer 2020.
Fel rhan o dîm trafod Gweinidogol y DU, bu Llywodraeth Cymru o gymorth i sicrhau y cytundeb yng Nghyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yr UE ym Mrwsel, a ddaeth i ben yn oriau mân y bore.
Meddai’r Gweinidog, a oedd yn rhan o ddirprwyaeth Llywodraeth Cymru:
Yn unol â’n hymrwymiadau i sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n gynaliadwy ac yn seiliedig ar y cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael, ein blaenoriaeth oedd diogelu’r stociau pysgod tra’n sicrhau canlyniadau positif i’r cymunedau arfordirol hynny y mae eu heconomi yn dibynnu cymaint ar y môr.
“Roedd y trafodaethau eleni yn bwysicach nag erioed gydag ansicrwydd Brexit. Er gwaethaf hyn, roedd modd inni gyflwyno achos cryf dros Gymru i’r Llywyddiaeth a’r Comisiwn, gyda chydweithwyr o Lywodraeth y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig eraill.
Ein prif flaenoriaeth yn ystod y negodi oedd Draenog y Môr ac rydym wedi sicrhau bargen gynaliadwy ond teg i bysgotwyr masnachol a hamdden wrth sicrhau bod adferiad y stoc bwysig hon yn parhau.
Rydyn ni hefyd wedi cynnal neu gynyddu'r cwotâu ar gyfer Morgathod, Cythreuliaid y Môr, Lledod Coch, Hadog a Lledod Mair yn y Môr Celtaidd ac ar gyfer Lledod Coch, Lledod Chwithig a Sgadan (Penwaig) ym Môr Iwerddon, hynny heb aberthu targedau cynaliadwyedd.
Yn y Môr Celtaidd er hynny, mae stociau Penfras yn parhau'n her. Mae'r Cyngor wedi gosod TAC o 805t ynghyd â phecyn o fesurau technegol pwysig. Er y bydd hyn yn anodd i rai, bydd mwyafrif llethol fflyd Cymru yn gallu parhau i bysgota'n gynaliadwy yn y Môr Celtaidd.