Rhaid i ffermwyr ddilyn y rheolau hyn os ydyn nhw'n gwneud cais am daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol 2016.
Mae newidiadau i:
- SMR 8: sdnabod defaid a geifr: i ddangos y rheolau newydd ar gyfer tagio ŵyn y bwriedir eu lladd.
- GAEC 5: stoc pridd a charbon. Cyfyngu ar waith trin tir i ddiogelu pridd rhag erydiad: er mwyn i ffermwyr adael wyneb garw lle gwelir bod amodau’r safle penodol yn gofyn am hynny i gyfyngu ar erydiad. Ond os bydd pridd yn dal i gael ei erydu, efallai’ch bod yn torri GAEC 4.
- SMR 4: bwyd a chyfraith bwyd: yn disgrifio’r rheolau newydd ar brofion cyn symud gwartheg i ac o dir comin.
- Taflen gysylltiadau ddefnyddiol: mae’r fersiwn electronig hon wedi’i diweddaru a manylion cysylltu EID Cymru.
Mae’r safonau ar gyfer 2016 wedi ei diweddaru i gynnwys y newidiadau i SMR 8 a GAEC 5.
Mae’r Canllaw i’r ffermwyr sy’n ystyried gadael wyneb garw ar eu tir newydd wedi ei gynhyrchu.